Asesiad Effaith Preifatrwydd Data (DPIA)

Mae Asesiadau Effaith ar Breifatrwydd (AEB) yn broses sy'n helpu asesu risgiau preifatrwydd i unigolion wrth gasglu, defnyddio a datgelu gwybodaeth. Mae AEBau yn helpu nodi risgiau preifatrwydd, rhagweld problemau a chyflwyno atebion. Prif ddiben yr AEBau yw dangos ein bod yn ymddwyn yn gyfrifol mewn perthynas â phreifatrwydd. Nid yw AEBau yn ofyniad cyfreithiol ond maent yn dangos y defnydd o arferion gorau ac yn gwella tryloywder y broses.

Mae'n bwysig cofio yn y pen draw mai ffocws yr AEB yw cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data. Fodd bynnag, bydd cydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall hefyd wedi cael ystyriaeth.

Mae AEB yn ystyried yr effaith y bydd y prosiect neu weithgareddau arfaethedig yn cael ar yr unigolion dan sylw.Wrth gwblhau'r AEB dylech ystyried gwahanol agweddau preifatrwydd:

  • preifatrwydd y wybodaeth bersonol
  • preifatrwydd y person
  • preifatrwydd ymddygiad personol
  • preifatrwydd cyfathrebu personol. 

Gellir gwneud yr asesiad preifatrwydd ar wahanol lefelau, sy'n amrywio o wneud AEB llawn i wiriad cydymffurfiaeth Diogelu Data sylfaenol. Bydd y lefel sy'n ofynnol yn dibynnu ar lefel y risg preifatrwydd a achosir gan y prosiect arfaethedig neu ddarn o waith arall. 

Dewiswch linc isod i weld yr AEBau Teledu Cylch Cyfyng ar gyfer canol y trefi hyn:-  

Mae Asesiadau Effaith Diogelu Data ar gael ar gyfer yr holl Ganolfannau Tref/ardaloedd a gellir darparu copïau papur ar gais.  Cysylltwch â:

Carl Nesling
Rheolwr yr Ystafell Reoli
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Rhif Ffôn: 01443 873770
E-bost: neslic@caerffili.gov.uk