Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol 

Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dîm o Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol ac maent yn weladwy yn eu lifrai yn ein cymunedau. Eu prif ddyletswydd yw gostwng lefelau troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ofn troseddau mewn cymunedau, ond maent hefyd yn rhoi sicrwydd a chymorth er mwyn creu amgylchedd byw mwy diogel a dymunol.

Nid yw'r wardeiniaid yn disodli'r Heddlu, ceidwaid nac unrhyw fath arall o wardeiniaid; maent yn ategu'r gwasanaethau presennol ac yn helpu sicrhau ymateb cydgysylltiedig i broblemau.

Beth all y wardeiniaid ddelio ag ef?

Gall y Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol ddelio ag ystod eang o faterion o ddydd i ddydd a all ddifetha ein cymunedau, gan gynnwys:

  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Grwpiau ar y strydoedd
  • Cam-drin geiriol
  • Yfed (yn gyhoeddus)
  • Cymdogion swnllyd
  • Cerddoriaeth uchel
  • Larymau ceir/Larymau lladron
  • Anghydfodau rhwng cymdogion
  • Niwsans amgylcheddol
  • Taflu sbwriel/Tipio anghyfreithlon
  • Graffiti
  • Cŵn yn baeddu
  • Cerbydau wedi'u gadael/Cerbydau peryglus

Pa bwerau sydd gan y Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol?

Mae'r Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol wedi'u hachredu gan Brif Gwnstabl Gwent ac mae ganddynt y pwerau canlynol pan fyddant ar ddyletswydd:

  • Cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â beicio ar lwybrau troed, cŵn yn baeddu a thaflu sbwriel.
  • Atafaelu alcohol mewn mannau cyhoeddus dynodedig neu oddi ar bobl ifanc.
  • Atafaelu tybaco oddi ar bobl ifanc.
  • Symud cerbydau wedi'u gadael.
  • Rheoleiddio Traffig.
  • Gallant orchymyn i berson ar droed beidio â mynd ar hyd neu ar draws ffordd gerbydau
  • Gallant ofyn am enw a chyfeiriad unigolyn o dan yr amgylchiadau canlynol:​
    • Troseddau lle gellir cyflwyno hysbysiadau cosb benodedig
    • Unrhyw drosedd sy'n achosi anaf/ofn/trallod, neu golli/ddifrodi eiddo rhywun arall
    • Pan fydd ganddynt reswm digonol dros feddwl bod yr unigolyn yn gweithredu mewn modd gwrthgymdeithasol.

Mae methu â darparu'r enw a'r cyfeiriad cywir, neu wrthod â'u darparu, pan fo Warden Diogelwch Cymunedol yn gofyn amdanynt yn drosedd, yn yr un modd y mae ymosod ar warden neu rwystro warden.

Cysylltwch â ni