Gwrthderfysgaeth

Mae Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth. Mae terfysgaeth yn fygythiad go iawn i'n cymunedau ac mae terfysgwyr yn ceisio ecsbloetio'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Dyna pam ei bod yn hanfodol bod asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio ... waeth beth fo'u ffydd, ethnigrwydd neu gefndir. 

Mae pedair elfen i strategaeth gwrthderfysgaeth genedlaethol y Llywodraeth (CONTEST): Amddiffyn, Paratoi, Atal ac Erlid. Mae elfen Atal y strategaeth yn gyfrifoldeb partneriaeth gydag awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth adnabod unigolion a allai fod mewn perygl, a'u cynorthwyo. Mae'r elfen hon yn canolbwyntio yn bennaf ar atal pobl agored i niwed rhag cael eu denu at eithafiaeth a chyflawni terfysgaeth.

Elfen allweddol o'r strategaeth Atal yw ‘Channel’, sef dull amlasiantaethol i amddiffyn pobl sydd mewn perygl rhag cael eu radicaleiddio. Mae Channel yn defnyddio'r cydweithredu presennol rhwng awdurdodau lleol, partneriaid statudol a'r Heddlu i adnabod unigolion sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn terfysgaeth, asesu natur a maint y perygl hwnnw a datblygu'r pecyn cymorth mwyaf priodol i ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl. Sefydlwyd Panel Channel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2013 i ddelio â'r holl atgyfeiriadau Prevent a geir gan adrannau mewnol ac asiantaethau allanol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Cysylltwch â ni