Rhoi gwybod i ni am fater diogelwch

Rydym yn ymchwilio i faterion diogelwch bwyd ym mwrdeistref sirol Caerffili. Mae’r rhain yn cynnwys eiddo bwyd a chwynion am fwyd. Os yw eich cwyn yn ymwneud â sefydliad bwyd y tu allan i fwrdeistref sirol Caerffili, dylech gysylltu â’r awdurdod lleol perthnasol.

Cyn y byddwch yn rhoi gwybod i ni am y broblem, gallai fod yn fuddiol i chi ddarllen ein dogfennau canllaw cwynion bwyd cyffredin a’r esboniad o ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a dyddiadau ‘ar ei orau cyn’. 

Ni all y labordy brofi bwyd sy’n gysylltiedig ag achosion honedig o wenwyn bwyd, oni fydd y bwyd yn cael ei gasglu’n uniongyrchol gan y busnes bwyd gan swyddog cymwys.

Rhoi gwybod i ni am fater bwyd >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Fel arall, cysylltwch â ni dros y ffôn neu e-bost.

Pan fyddwch yn gwneud cwyn dylech:

  • Cadw’r bwyd heb ei fwyta dan sylw a’r gwrthrych estron mewn cynhwysydd â chaead arno. Os yw’r bwyd yn ddarfodus neu os yw’n cael ei effeithio gan lwydni, rhowch ef yn y rhewgell neu’r oergell nes y byddwn yn ei gasglu er mwyn atal unrhyw ddirywiad pellach.
  • Dylech gadw unrhyw ddeunydd pecynnu a allai fod gennych, oherwydd bydd yn darparu gwybodaeth bwysig yn cynnwys y dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a chodau swp, sydd eu hangen ar gyfer yr ymchwiliad.
  • Pan fydd yn bosibl dylech gadw unrhyw dderbynebau prynu.
Cysylltwch â ni