Coelcerthi mewn gerddi

Nid oes unrhyw gyfraith sy’n dweud na allwch gynnau coelcerth, ond mae’n drosedd os bydd y mwg neu arogl y mwg yn achosi niwsans.

Gall mwg o goelcerthi mewn gerddi mewn ardal breswyl gael effaith ddifrifol ar breswylwyr eraill. Gallant gyfrannu hefyd at lefelau llygredd aer lleol ac mewn rhai lleoliadau, gallant leihau gwelededd ar ffyrdd gerllaw.

Cwyno am goelcerth cymydog

Mae un goelcerth yn annhebygol o achosi niwsans, er y gallai achosi annifyrrwch i un neu ddau o gymdogion. I fod yn niwsans, mae’n rhaid bod tystiolaeth ynglŷn ag amlder y coelcerthi, eu hyd, yr ardal gyfagos ac ym mha ffordd mae’r goelcerth yn cael effaith uniongyrchol ar fwynhad yr achwynydd o’u tir.

Os yw eich cymydog yn achosi niwsans, trafodwch hyn gyda hwy yn bwyllog. Os na fydd hyn yn gweithio gallwch gysylltu â ni.

Canllaw ar gyfer coelcerthi

Mae’n well peidio cynnau coelcerthi os yn bosibl. Gallwch gael gwared â gwastraff cartref neu ardd drwy ei  gompostio neu ei ailgylchu.Os nad oes dewis arall i gael coelcerth, dylech ei chynnau pan fydd yr amodau tywydd yn addas.

Os mai coelcerth yw’r dewis gorau ar gyfer cael gwared â gwastraff gardd, dilynwch y canllawiau canlynol ac mae’n debygol na fyddwch yn aflonyddu eich cymdogion nac yn achosi niwsans difrifol:

  • Rhybuddiwch eich cymdogion – maent yn llawer llai tebygol o gwyno
  • Dylech losgi deunydd sych yn unig
  • Ni ddylech byth losgi sbwriel cartref, teiars rwber nac unrhyw beth sy’n cynnwys plastig, sbwng na phaent
  • Ni ddylech byth ddefnyddio hen olew injan, gwirod methyl na phetrol i gynnau’r tân neu ei annog
  • Dylech osgoi cynnau tân mewn amodau tywydd anaddas – mae mwg yn hongian yn yr aer ar ddyddiau tamp a llonydd a gyda’r nos. Os yw’n wyntog, gall y mwg gael ei chwythu i erddi cymdogion ac ar draws ffyrdd
  • Dylech osgoi llosgi pan fydd lefelau uchel neu uchel iawn o lygredd aer yn eich ardal chi
  • Ni ddylech ganiatáu i’r mwg groesi ar draws y ffordd a dod yn berygl i draffig. Efallai y cewch ddirwy am hyn.