Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Cŵn yn baeddu a rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus

Nod y Cyngor yw hyrwyddo perchnogaeth cŵn gyfrifol a lleihau cwynion am faterion cŵn megis cŵn yn baeddu.

Mae hyn yn caniatáu i'r cyhoedd, ac yn enwedig plant, gael mynediad i fannau heb cŵn neu ardaloedd sy'n cael eu rheoli o ran cŵn sydd hefyd at ddibenion hamdden i wella iechyd a lles, gan wneud Bwrdeistref Caerffili yn lle diogel a phleserus i fyw ynddo. Mae’r Cyngor yn bwriadu lleihau a mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â chŵn sy’n achosi niwsans i eraill a, hefyd, leihau’r goblygiadau iechyd posibl sy’n gysylltiedig â baw cŵn.

Ym mis Tachwedd 2021, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cymeradwyodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) sy'n cynnwys cyfyngiadau newydd mewn perthynas â rheoli cŵn. Daw'r Gorchymyn i rym ar 1st Mawrth 2022.

Mae’r Cyngor wedi cymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn perthynas â chwe throsedd, sef:

  • Eithrio cŵn o bob man chwarae amlddefnydd ac ardal chwarae caeedig i blant
  • Mynnu bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn mewn gerddi coffa caeedig
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn cael gwared ar faw ci mewn mannau cyhoeddus
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn cario cynhwysydd priodol ar gyfer ymdrin â'r gwastraff y mae eu cŵn yn cynhyrchu (hynny yw, bod modd iddynt godi baw eu cŵn ar bob adeg) Rhoi gwybod i ni am gŵn yn baeddu
  • Mynnu bod perchnogion cŵn yn rhoi eu cŵn ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig yn eu cyfarwyddo i'w gwneud ar unrhyw dir cyhoeddus lle ystyrir nad yw'r ci o dan reolaeth neu'n achosi niwed neu ofid er mwyn atal niwsans
  • Gwahardd cŵn o gaeau/mannau chwarae wedi'u marcio

​Dogfennau cysylltiedig

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Eithriadau

Sylwer bod person dall cofrestredig, neu berson ag anabledd sy'n effeithio ar eu symudedd, deheurwydd llaw neu'r gallu i godi, cario neu symud gwrthrychau bob dydd, ac sy'n dibynnu ar gi sydd wedi'i hyfforddi gan elusen ragnodedig am gymorth, wedi'i eithrio o'r gorchymyn baeddu cŵn.

Gwybodaeth gefndirol

Beth yw GGMC?

Mae GGMC yn ddarpariaeth newydd, a grëwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2014 a fwriadwyd i ddelio ag unrhyw niwsans neu broblemau penodol mewn ardal ddiffiniedig sy'n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol. Gallant helpu drwy roi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol a'r heddlu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Y nod yw atal unigolion neu grwpiau sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau cyhoeddus drwy gyflwyno cyfyngiadau ar y defnydd o ardal.

Os bydd unrhyw un yn methu â bodloni gofynion y GGMC neu i gydymffurfio â chais gan swyddfa'r heddlu, swyddog cymorth cymunedol yr heddlu (SCCH) neu swyddog cyngor awdurdodedig, gallent gael Hysbysiad Cosb Benodedig (HCB) o hyd at £100 neu eu herlyn. Fodd bynnag, mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i ymdrin ag eithafion ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd swyddogion awdurdodedig yn dilyn trywydd cymesurol a synnwyr cyffredin yn eu cymhwysiad.

Mae'r GGMC yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol ar gŵn yn baeddu, a Gorchmynion Rheoli Cŵn (GRhC), yn ogystal â chyflwyno mesurau newydd i helpu i fynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol.

Mae'r GGMC yn cyfuno'r pwerau cŵn sy’n baeddu sydd gennym ar hyn o bryd o dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996 a Gorchmynion Rheoli Cŵn o’r Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2006 mewn un Gorchymyn.

Mae'r pwerau newydd yn cynyddu gallu'r cyngor i ddelio â pherchnogion cŵn anghyfrifol drwy ei wneud yn drosedd methu â rhoi ci ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn am hynny, caniatáu i gi fod ar gaeau chwarae wedi eu marcio, ac ar erddi coffa caeëdig. Mae'n drosedd peidio â chael y modd i godi baw eu ci pan ofynnir iddynt wneud hynny - byddai hyn yn golygu pe na bai cerddwr cŵn yn gallu dangos, pan ofynnir gan swyddog awdurdodedig, fag baw neu ei debyg y byddent mewn perygl o gael Hysbysiad Cosb Benodedig.

Bydd y GGMC yn parhau yn ei le am dair (3) blynedd, ac yna gellir ei adnewyddu. Gellir hefyd amrywio'r GGMCO ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn.