Cŵn yn baeddu

Mae cŵn yn baeddu yn broblem i’r fwrdeistref sirol. Rydym yn gweithio i fynd i’r afael â’r broblem drwy:

  • gofyn i bobl godi ar ôl eu ci
  • cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig i bobl y byddwn yn gweld nad ydynt yn codi ar ôl eu ci
  • dweud wrth bobl am beryglon peidio â chodi ar ôl eu ci

Rhoi gwybod i ni am gŵn yn baeddu

Rhowch wybod i ni os byddwch yn canfod problem cŵn yn baeddu lle’r ydych yn byw neu os ydych yn gwybod am berchennog ci nad yw’n codi ar ôl ei gi.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu lle byddwn yn targedu ein gwaith i atal cŵn rhag baeddu ac i helpu i gadw eich strydoedd yn lân a diogel.

Fel arall, cysylltwch â’r Adran Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Mae’n drosedd caniatáu i’ch ci faeddu tir cyhoeddus heb ei ‘godi’. Os byddwch yn cael eich dal yn peidio ‘codi’, byddwn yn cyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £100. Gallai peidio â thalu’r hysbysiad hwn arwain at erlyniad lle gall ynadon gyflwyno dirwy o hyd at £1000.

Erlyniadau llwyddiannus cŵn yn baeddu

Cywilyddus, budr, hunanol

Mae gennym agwedd ddi-lol at gŵn yn baeddu a thaflu sbwriel. Mae ein hymgyrch, ‘Cywilyddus, budr, hunanol’ wedi’i chynllunio i annog pobl i lanhau eu llanast a rhoi gwybod i ni am y lleiafrif anystyriol sy’n credu ei bod yn dderbyniol i daflu sbwriel neu i beidio glanhau ar ôl eu cŵn.