Pentyrrau o sbwriel

Rydym yn derbyn nifer o gwynion gan drigolion bob blwyddyn ynglŷn â phentyrrau o sbwriel.

Sbwriel ar y briffordd, lleiniau ymylon ffyrdd a thir cyhoeddus arall

Gelwir sbwriel sy’n cael ei adael ar y briffordd gyhoeddus neu ar dir agored arall yn dipio anghyfreithlon. Ewch i’n gwefan ar dipio anghyfreithlon i gael gwybodaeth bellach am beth i’w wneud os byddwch yn darganfod neu’n tystio rhywun yn tipio yn anghyfreithlon.

Sbwriel cartref ar dir preifat

Mae adran Iechyd yr Amgylchedd yn delio â phentyrrau o sbwriel ar dir preifat. Mae’r deunydd gwastraff hwn yn aml yn darparu cysgod i lygod mawr neu lygod, neu mae’n cynnwys deunydd gwenwynig sy’n pydru, yn cynnwys gwastraff bwyd ac, os na fydd yn cael ei waredu’n gyflym, bydd yn cyflwyno risg i iechyd y cyhoedd.

Mae perchenogion tai preifat a thenantiaid sy’n byw mewn llety sy’n cael ei rentu’n breifat yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gwaredu eu sbwriel yn briodol. Os ydych yn denant, gallech hefyd fod yn torri eich cytundeb tenantiaeth os ydych yn caniatáu i sbwriel gronni y tu mewn i’ch cartref neu yn eich gardd neu iard.

Gwneud cwyn

I roi gwybod i ni am bentyrrau o sbwriel ar dir preifat, cysylltwch â’r adran Iechyd yr Amgylchedd.

Byddwn yn ymweld â’r safle ac yn ceisio gweithio gyda’r perchennog neu’r deiliad i symud y sbwriel. Fodd bynnag, os na fydd hyn yn llwyddo, gellir cyflwyno hysbysiad ffurfiol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 neu Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, sy’n eu gorchymyn i symud y sbwriel o fewn cyfnod o amser penodol.

Os na fyddant yn cydymffurfio, gallwn drefnu i symud y sbwriel, ac yna adennill y costau.