Sbwriel ar y stryd

Rydym yn codi sbwriel ac yn ysgubo pob un o’n ffyrdd mabwysiedig gyda pheiriant yn rheolaidd. Os byddwch yn darganfod ardal gyda sbwriel neu nodwyddau neu chwistrellau wedi’u gwaredu, rhowch wybod i ni am hyn.

 

Hysbysiadau Cosb Benodedig

Mae gollwng sbwriel yn drosedd. Gall unrhyw un sy’n taflu sbwriel dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100. Gallai peidio talu’r hysbysiad hwn arwain at erlyniad, lle gall ynadon roi dirwy o hyd at £1000.

Erlyniadau llwyddiannus am daflu sbwriel

Cywilyddus, budr, hunanol

Mae gennym agwedd ddi-lol at gŵn yn baeddu a thaflu sbwriel. Mae ein hymgyrch, ‘Cywilyddus, budr, hunanol’ wedi’i chynllunio i annog pobl i lanhau eu llanast a rhoi gwybod i ni am y lleiafrif anystyriol sy’n credu ei bod yn dderbyniol i daflu sbwriel neu i beidio glanhau ar ôl eu cŵn.

Hysbysiadau rheoli sbwriel stryd

Pan fydd yn bosibl olrhain problem sbwriel yn glir i fathau penodol o eiddo, er enghraifft safleoedd bwyd tecawê, gallwn gyflwyno ‘Hysbysiad Rheoli Sbwriel Stryd’. Mae hyn yn sicrhau bod y perchennog yn sicrhau nad oes unrhyw sbwriel yn yr ardal o flaen y safle, ac ar bellter y cytunwyd arno bob ochr i’r safle. 

Ardaloedd rheoli tir preifat a sbwriel

Os bydd llawer o sbwriel mewn mathau arbennig o dir preifat y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, er enghraifft meysydd parcio canolfan siopa, gallwn eu dyfarnu yn ‘Ardal Rheoli Sbwriel’. Yna, bydd gan y perchennog, neu’r person sy’n defnyddio’r tir, ddyletswydd i glirio’r tir a sicrhau nad oes unrhyw sbwriel arno.