Gwastraff gardd

Caiff gwastraff yr ardd, fel gwastraff bwyd, ei gasglu bob wythnos ac mae pob aelwyd wedi cael eu darparu gyda sachau gardd gwyrdd. Gall sachau gardd eraill hefyd cael eu defnyddio.

Dod o Hyd i'ch Diwrnod Bin

Archebu sach gwastraff yr ardd

Beth allaf roi yn fy sach gwastraff gardd?

Dylai’ch sach gwastraff gardd cael ei ddefnyddio ar gyfer gwastraff gardd megis dail, blodau marw, toriadau gwair, toriadau gwrychoedd a chwyn. Ewch i’r adran beth sy'n mynd yn fy miniau am restr fanylach o'r hyn y gallwch ac ni allwch eu cynnwys. Byddwn ni’n casglu uchafswm o 4 bag o wastraff yr ardd yr wythnos.

Gwastraff gardd swmpus

Ni fyddwn yn casglu gwastraff gardd swmpus megis coed a changhennau fel rhan o'ch gwasanaeth casglu wythnosol. Ewch i’r adran gwastraff gardd swmpus am opsiynau ar gyfer cael gwared ar yr eitemau hyn.

Pryd mae'r gwasanaeth ar gael?

Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd fel arfer yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn.

Biniau compost

Nid ydym bellach yn cynnig gwasanaeth noddedig. Yn hytrach, gallwch brynu biniau gwrtaith o ganolfannau garddio, siopau ‘DIY’ a manwerthwyr ar-lein.

Cysylltwch â ni