Gwnewch gais am gasglu gwastraff hylendid

I wneud cais am y gwasanaeth hwn, rhaid i rywun yn y tŷ gynhyrchu gwastraff hylendid. Gall hyn fod oherwydd cyflwr meddygol.

Dydyn ni ddim yn codi tâl am y gwasanaeth hwn.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio

Gwasanaeth casglu bob pythefnos yw'r gwasanaeth gwastraff hylendid. Byddwn ni'n casglu eich gwastraff hylendid ynghyd â'ch gwastraff cyffredinol.

Gallwch chi roi eich gwastraff hylendid yn eich bin gwastraff cyffredinol os oes gennych chi ddigon o le. Mae hyn oherwydd eu bod nhw'n cael eu casglu gan yr un cerbyd.

Dim ond ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd y byddwn ni'n eu prosesu. Bydd y rhai sydd ddim yn bodloni’r meini prawf yn cael eu gwrthod.

Byddwn ni'n gwrthod eich cais oherwydd y canynol:

  • Nid yw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd
  • Mae digon o le yn eich bin gwastraff cyffredinol ar gyfer y gwastraff ychwanegol.

Byddwn ni'n adolygu eich cais gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol. Bydd hwn naill ai'n adolygiad tymor byr (yn chwarterol) neu'n adolygiad blynyddol.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd angen i aelod o'r tîm gwastraff ymweld â'ch eiddo.  Bwriad yr ymweliad hwn yw asesu eich bod chi'n bodloni'r meini prawf.

Efallai y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch cais.

Os ydych chi'n gymwys i gael bin ychwanegol, mae hwn ar gyfer gwastraff hylendid yn unig.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, ni fydd modd ei ddiwygio.

Cynhyrchion hylendid rydyn ni'n eu casglu.

  • Bagiau colostomi/stoma
  • Padiau anymataliaeth oedolion
  • Menig plastig
  • Ffedogau tafladwy

Cynhyrchion hylendid na fyddwn ni'n eu casglu.

  • Gwastraff glanweithiol 
  • Gwastraff clinigol (er enghraifft nodwyddau)
  • Gwasarn/gwastraff anifeiliaid anwes
  • Padiau cŵn bach
  • Cathetrau
  • Gwastraff heintus (er enghraifft, plastrau a rhwymynnau)
Gwnewch gais nawr
 
Noder: Ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern, fel Edge, Chrome neu Safari.
Cysylltwch â ni