Stopio post sothach

Gall cael post nad ydych ei eisiau fod yn boendod, yn anghyfleus, yn fygythiol a gall achosi straen.

Mae pethau y gallwch ei wneud i’w atal neu ei leihau.

Cofrestru â’r Gwasanaeth Dewis Pa Gost a Gewch (MPS)

Bydd cofrestru â MPS yn atal llawer o’r ohebiaeth hysbysebu nad ydych ei heisiau rhag cyrraedd eich cyfeiriad cartref.

Bydd unrhyw bost gan gwmnïau neu elusennau rydych wedi gofyn amdano yn dal i gyrraedd. Yr unig ffordd i stopio cael y post hwn yw drwy gysylltu â’r sefydliad yn uniongyrchol.

Bydd cofrestru ag MPS yn eich stopio rhag cael taflenni sydd heb eu cyfeirio atoch, post i’r ‘meddiannwr’ neu bapurau newydd am ddim.

Tynnu’ch enw oddi ar y gofrestr etholwyr wedi’i golygu

Pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio gallwch ddewis i’ch manylion beidio â chael eu hychwanegu at y gofrestr etholwyr wedi’i golygu. Gall unrhyw unigolyn neu gwmni ei phrynu a darllen drosti – a gallant anfon gohebiaeth atoch.

Os hoffech beidio â bod ar y gofrestr ticiwch y blwch i sicrhau na fydd eich manylion arni, ac ond ar y gofrestr lawn.

Gallwch weld a ydych wedi'ch eithrio ohoni, neu gallwch gael eich eithrio ohoni unrhyw bryd, drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol.

Ticio neu ddad-dicio’r blwch

Efallai eich bod wedi rhoi enw a chyfeiriad i gwmni, er enghraifft wrth brynu cynnyrch neu wasanaeth. Os nad ydych am gael rhagor o wybodaeth am ‘gynhyrchion a gwasanaethau eraill’ dylech ddarllen y print mân a thicio’r blwch i ddweud na.

Mae rhai cwmnïau yn gofyn i chi ddad-dicio’r blwch yn lle. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn dewis yr opsiwn cywir.

Dychwelyd i’r anfonwr

Os cewch ohebiaeth nad ydych ei heisiau gyda chyfeiriad dychwelyd ar yr amlen, gallwch ysgrifennu ‘post heb ei awdurdodi, dychweler i’r anfonwr’ ar yr amlen, a’i rhoi yn ôl yn y post heb stamp.

Bydd yn rhaid i’r anfonwr dalu’r gost a gallai ddileu'ch manylion o’i rhestrau postio. Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau’n deall nad oes pwynt dal ati i anfon rhagor o hysbysebion atoch, ac yn rhoi llonydd i chi.

Cysylltu â’r anfonwr

Dan Ddeddf Diogelu Data 1998, rhaid i unrhyw sefydliad roi’r gorau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol os gofynnwch iddo wneud hynny.

Mae hon yn ffordd effeithiol iawn o atal post nad ydych ei eisiau rhag cael ei anfon atoch. Ni all wrthod dynnu’ch enw, cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth bersonol arall o’r rhestr bostio.

I wneud hyn, rhaid i chi gysylltu â’r sefydliad yn uniongyrchol. Sicrhewch eich bod chi:

  • yn ysgrifennu hyn (gall fod mewn e-bost)
  • yn ei gwneud yn glir eich bod yn gofyn i’r sefydliad i stopio, neu beidio â dechrau, prosesu’ch data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.
  • yn rhoi’r dyddiad ar eich gohebiaeth
  • yn rhoi’ch enw llawn a’ch cyfeiriad i’r sefydliad
  • yn cynnwys dyddiad rhesymol i’r sefydliad roi’r gorau i brosesu’ch data personol (fel arfer 28 diwrnod)

Stopio gohebiaeth nad yw wedi’i chyfeirio atoch

Mae amryw ffyrdd y gallwch stopio cael post sbwriel cyffredinol.

Stopio cael gwasanaeth O Ddrws i Ddrws y Post Brenhinol

Mae gwasanaeth O Ddrws i Ddrws y Post Brenhinol yn dosbarthu post digyfeiriad, fel arfer deunydd marchnata fel taflenni neu lyfrynnau, ar ran cwmnïau a sefydliadau.

Gallwch leihau faint o'r post hwn a gewch drwy eithrio'ch hun rhag cael gwasanaeth O Ddrws i Ddrws y Post Brenhinol. Ond byddwch yn dal i gael post sydd i’r ‘meddiannwr’.

Cofrestru â chynllun ‘Eich Dewis Chi’

Mae Cynllun Eich Dewis Chi i Bost Di-gyfeiriad yn helpu cartrefi i leihau faint o ohebiaeth a gânt sydd heb gyfeiriad arni ac nad ydynt ei heisiau, sy’n cael ei dosbarthu gan y Gymdeithas Marchnata Uniongyrchol. I beidio â’i chael, rhaid i chi ofyn i’r Gymdeithas anfon pecyn gwybodaeth a ffurflen atoch.

Ar ôl i chi ddychwelyd y ffurflen bydd yn cymryd 12 wythnos nes i'r ohebiaeth hon stopio cael ei dosbarthu i chi. Nid yw’n cynnwys post di-gyfeiriad nad yw aelodau’r Gymdeithas yn ei ddosbarthu.

Gallwch roi arwydd ‘dim post sothach’ ar eich drws i atal busnesau lleol rhag dosbarthu post di-gyfeiriad nad ydych ei eisiau.

Cael sticer blwch llythyrau

Mae’r grŵp ymgyrch Post Dim Sothach yn gwerthu dau fath o sticer blwch llythyrau. Os ydych am stopio cael y taflenni hyn ond eich bod am gael papurau newydd lleol am ddim, mae sticer ‘Dim Taflenni Masnachol, Ie i Bapurau Newydd am Ddim’. Os nad ydych am i’r naill na’r llall gael eu postio i chi mae sticer ‘Dim Taflenni Masnachol, Dim Papurau Newydd am Ddim’.

Dysgwch sut i gael sticer blwch llythyrau gan Stop Junk Mail yn www.stopjunkmail.org.uk.

Stopio post sothach rhag cael ei anfon i rywun sydd wedi marw

Gall cael post sothach ar gyfer rhywun sydd wedi marw beri gofid. Mae nifer o wasanaethau sy’n eich galluogi i gofrestru marwolaeth rhywun. Byddant yn sicrhau bod enw rhywun yn cael ei dynnu oddi ar restri postio marchnata a chronfeydd data. Ewch i’r adran gwasanaethau profedigaeth am fanylion.

Cysylltwch â ni