Oriau agor y canolfannau ailgylchu y cartref

Mae chwe chanolfan ailgylchu y cartref yn y Fwrdeistref Sirol, a dyma'r oriau agor:

  • 1 Ebrill i 30 Medi – Dydd Llun i ddydd Sul, 9am tan 5.30pm
  • 1 Hydref i 31 Mawrth – Dydd Llun i ddydd Sul, 9am tan 4.30pm

Mae'r canolfannau ar agor fel arfer ar wyliau banc, ond ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Gwiriwch oriau agor y canolfannau ailgylchu:

Noder: Am resymau Iechyd a Diogelwch, dydyn ni ddim yn caniatáu mynediad i gerddwyr yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, oherwydd does dim llwybr cerdded diogel.

Cwynion

Os oes gennych chi gŵyn am Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, rhowch wybod i ni.

Noder: Ni fydd y ffurflen hon yn gweithio yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern, fel Edge, Chrome neu Safari.
Cysylltwch â ni