Hysbysu am newid yn eich amgylchiadau

Os ydych chi'n derbyn Budd-dal Tai a/neu Leihad mewn Treth y Cyngor neu’n hawlio Credyd Cynhwysol a bod eich amgylchiadau'n newid, rhaid i chi hysbysu am hyn ar unwaith.

Os nad ydych, efallai y byddwch yn derbyn gormod o fudd-dal a bydd rhaid talu unrhyw ordaliadau yn ôl. Gallwch hefyd golli arian os nad ydych yn hysbysu am newidiadau penodol, er enghraifft, os yw eich rhent yn mynd i fyny. 

Gallwch hysbysu am newid mewn amgylchiadau ar-lein.

Bydd y dolenni hyn yn eich cyfeirio at Gyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Newidiadau y mae angen i chi ddweud wrthym amdanynt

Mae angen i chi ddweud wrthym os bydd unrhyw un o'r newidiadau canlynol yn digwydd i chi neu i unrhyw un sy'n byw gyda chi:

  • os ydych yn symud i gyfeiriad gwahanol
  • os oes unrhyw un yn symud i mewn neu allan o'ch cartref
  • rydych chi neu'ch partner wedi gorffen gweithio
  • rydych chi neu'ch partner yn dechrau gweithio neu'n mynd yn hunan-gyflogedig
  • mae'r oriau rydych chi neu'ch partner yn gweithio yn mynd i fyny neu i lawr
  • bod tâl / cyflog chi neu'ch partner yn mynd i fyny neu i lawr
  • bod y swm y byddwch yn talu am gostau gofal plant yn mynd i fyny neu i lawr
  • bod y cynilion sydd gennych yn mynd i fyny neu i lawr
  • rydych chi neu unrhyw un arall sy'n byw gyda chi yn gadael y wlad, neu mewn carchar neu'r ysbyty
  • genedigaeth plentyn
  • bod unrhyw blentyn (18 oed neu hŷn) yn dechrau neu'n gadael yr ysgol neu brifysgol
  • bod tâl / cyflog chi neu unrhyw un arall sy'n byw gyda chi yn mynd i fyny neu i lawr
  • bod rhywun sy'n byw gyda chi wedi marw
  • bod eich credydau treth yn mynd i fyny neu i lawr
  • bod eich lwfans ceisio gwaith, cymhorthdal incwm, lwfans cymorth cyflogaeth neu unrhyw fath arall o fudd-daliadau a dderbyniwch yn newid neu'n dod i ben
  • unrhyw newid arall heb ei restru uchod yr ydych yn meddwl y gallai newid y swm o fudd-dal a gewch

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gyngor pellach, cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni