Symud allan o’ch tŷ cyngor 

Mae’n bosibl y byddwch am symud allan o’ch tŷ cyngor am nifer o resymau. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud a sut y gallem eich helpu.

Os bydd eich amgylchiadau yn newid mewn unrhyw ffordd, neu os oes unrhyw ymholiadau gennych chi am eich contract meddiannaeth,  cysylltwch â’ch swyddfa dai leol a fydd yn gallu cynnig help a chyngor i chi.

Symud i un o dai eraill y cyngor 

Mae un gofrestr dai gennym ni, sy’n cynnwys deiliaid contract y cyngor, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n dymuno symud i eiddo arall.  I ymuno â’r gofrestr dai bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am dŷ.

Symud oherwydd problemau meddygol

Efallai y bydd angen i chi symud i dŷ cyngor arall oherwydd problemau meddygol sy'n golygu na allwch barhau i fyw yn eich cartref presennol. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am dŷ. Os oes gennych chi gais tai gweithredol eisoes, gallwch ddweud wrthym am unrhyw newid mewn amgylchiadau trwy hunanwasanaeth trwy fewngofnodi i'ch cais yn www.homesearchcaerphilly.org. Cysylltwch â ni os nad ydych yn gwybod eich manylion mewngofnodi, neu os oes angen cymorth arnoch gyda'r gwasanaeth hwn.

Trosglwyddo eich contract

Dyma pan fyddwch chi am gyfnewid eich cartref â deiliad contract diogel landlord cymunedol arall a oedd yn arfer cael ei alw'n gydgyfnewid. Gallwch chi drosglwyddo eich contract diogel i ddeiliad contract diogel arall y cyngor hwn, deiliad contract diogel cymdeithas dai, neu ddeiliad contract diogel cyngor arall. Rhaid i chi gael ein caniatâd yn ysgrifenedig cyn i chi wneud hyn. Am fanylion ewch i’r adran Homeswapper.  Os byddwn ni'n cytuno i'r trosglwyddiad, bydd angen i bawb dan sylw lofnodi ffurflen drosglwyddo yn cadarnhau'r trosglwyddiad.
 

Terfynu eich tenantiaeth

Rhaid i chi gofio’r canlynol

  • Os ydych am derfynu eich tenantiaeth, rhaid i chi roi o leiaf 4 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’ch swyddfa dai leol.
  • Os byddwch yn gadael eich cartref cyn diwedd cyfnod eich tenantiaeth, codir tâl am rent arnoch fel arfer hyd at ddiwedd y cyfnod o 4 wythnos.
  • Trefnir archwiliad o’ch cartref cyn eich dyddiad gadael disgwyliedig.
  • Pan fyddwch yn gadael, rhaid i bawb fu’n byw yn yr eiddo gyda chi symud allan, a dylech adael yr eiddo mewn cyflwr glân a thaclus neu fel arall gellir codi tâl arnoch. 
  • Rhaid i’ch cyfrif rhent fod wedi’i dalu’n llawn.
  • Os ydych wedi gwneud unrhyw welliannau eich hun, rhaid i chi naill ai adael yr eiddo fel y mae, neu ei adfer i’w gyflwr gwreiddiol. Os ydych am dynnu’r gwelliannau allan o’r eiddo, cysylltwch â’ch swyddfa dai leol am ragor o gyngor. Rhaid gadael rhai gwelliannau, megis system gwres canolog, yn yr eiddo, ond gallwch fod yn gymwys i gael rhywfaint o iawndal am hynny.
  • Pan fyddwch yn gadael, rhaid i chi sicrhau eich bod yn dychwelyd holl allweddi eich cartref i’ch swyddfa dai leol, lle gofynnir i chi lofnodi derbynneb a ffurflen ymwadiad.
  • Os chi yw perthynas agosaf y tenant, gofynnir i chi gadarnhau natur eich perthynas a’ch manylion. 

Cyd-denantiaethau

Os oes gennych gyd-denantiaeth â pherson arall, mae’r ddau ohonoch yn llwyr gyfrifol am y denantiaeth. Mae’r ddau ohonoch yn rhwym wrth amodau’r denantiaeth a nodwyd yn y Cytundeb Tenantiaeth.

Os ydych yn gyd-denantiaid, gall unrhyw un ohonoch ddod â’r denantiaeth i ben drwy roi rhybudd o bedair wythnos i’r Cyngor. Nid oes ymrwymiad cyfreithiol ar y Cyngor i ganiatáu i’r cyd-denant(iaid) eraill aros yn y cartref – mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau a ph’un a fyddai’r eiddo’n fwy addas ar gyfer math arall o aelwyd. 

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch ar derfynu cyd-denantiaeth cysylltwch â’ch swyddfa dai leol.

Olyniaeth

Weithiau gellir trosglwyddo tenantiaethau’r Cyngor i bobl eraill os bydd y tenant yn marw, a elwir yn “hawl olyniaeth”.

Ar y cyfan, bydd olyniaeth yn gymwys pan fo’r tenant diogel yn marw, a gellir trosglwyddo’r denantiaeth i’r canlynol:

  • gŵr, gwraig neu bartner sifil y tenant, ar yr amod eu bod yn cydfyw â’r tenant ar adeg y farwolaeth; neu
  • bartner neu berthynas agos, ar yr amod y buont yn byw yn yr eiddo am o leiaf 12 mis cyn marwolaeth y tenant.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd yr eiddo rydych yn byw ynddo yn addas at anghenion partner neu berthynas sy’n fyw. Gallai’r eiddo fod wedi’i addasu ar gyfer person anabl, neu efallai y bydd yn fwy o faint na sydd ei angen. Os felly, bydd y Cyngor yn asesu’r sefyllfa, a gall gynnig eiddo amgen. Nid yw hawl olyniaeth i denantiaeth bob tro yn golygu ei bod yn bosibl aros mewn eiddo penodol.

Caiff pob achos ei farnu’n unigol, rhoddir ystyriaeth gydymdeimladol o dan bob amgylchiadau, a bydd angen i chi gysylltu â’ch swyddfa dai leol am ragor o gyngor ac arweiniad.

Aseinio

Os ydych am drosglwyddo eich tenantiaeth i enw rhywun arall, gallwch wneud hynny os byddai gan y person hwnnw yr hawl iddo yn unol â rheolau olyniaeth (gweler uchod) neu os gwnaed gorchymyn sy’n eich caniatáu i drosglwyddo’r denantiaeth fel rhan o achos llys.