Pobl sy’n cysgu ar y stryd

Os ydych chi'n cysgu allan neu'n dod i gysylltiad â rhywun sy'n cysgu allan, yna ffoniwch ein Tîm Cyngor ar Dai; o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30am–5pm, dydd Gwener, 8.30am–4.30pm ar 01443 873552. Y tu allan i'r amseroedd hyn ac ar y penwythnos/gwyliau banc, cysylltwch â'r gwasanaeth y tu allan i oriau ar 01443 875500. Bydd y tîm y tu allan i oriau wedyn yn cysylltu â'r Swyddfa Cyngor ar Dai y tu allan i oriau sydd ar alwad, a fydd wedyn yn cysylltu â'r person sy'n gofyn am gymorth.    
 
Byddem ni'n cynghori, os ydych chi'n rhoi gwybod am rywun sy'n cysgu allan ond nid oes gennych chi ei enw na rhif cyswllt, bydd angen i'r tîm gael lleoliad hysbys diwethaf y person lle cafodd ei weld yn cysgu allan.  Yna mae Cornerstone, ein tîm Allgymorth i'r Rhai sy'n Cysgu Allan penodedig, yn gallu trefnu i fynd allan, ymgysylltu â'r person a chysylltu â'n tîm digartrefedd ni.
 
Bydd y tîm wedyn yn edrych ar ba opsiynau sydd ar gael i’r person hwnnw gael mynediad i dŷ yn ystod cyfnodau o dywydd garw.
 
Yn rhan o'r gwasanaeth sy'n cael ei gomisiynu trwy wasanaeth allgymorth Cornerstone, mae mynediad at fwyd a dillad cynnes yn ystod cyfnodau o dywydd garw oer. Yna, mewn cyfnodau o wres eithafol, mae modd darparu mynediad at ddŵr, eli haul a dillad oer hefyd.
 
Yn ogystal, bydd cymorth yn cael ei gynnig i gael mynediad at unrhyw wasanaethau ychwanegol y gallai fod eu hangen ac i gael mynediad at unrhyw gymorth ariannol drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau ac ati.
 
Mae llawer o resymau pam fod pobl yn cysgu allan, felly, rydyn ni'n gofyn i aelodau’r cyhoedd barchu eu preifatrwydd ac ymatal rhag postio ar gyfryngau cymdeithasol, gan y gall hyn beri risg iddyn nhw neu eraill yn anfwriadol.
 

Cysylltwch â ni