Cyllid Hyblygrwydd ECO

Cynorthwyo cartrefi tlawd o ran tanwydd a'r rhai mwyaf anghenus

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda chwmnïau ynni a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (sy’n cynrychioli deg awdurdod lleol De-ddwyrain Cymru) i gynorthwyo aelwydydd mewn cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n wael, er mwyn gwneud y cartrefi hynny'n fwy effeithlon o ran ynni a helpu lleihau effaith cynnydd mewn biliau ynni.
 
Gan weithio gyda'n partneriaid ni, ein nod yw denu cyllid gan y llywodraeth er mwyn lleihau neu ddileu cost gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
 
Fel rhan o gynllun cenedlaethol ECO4, bydd EDF a chwmnïau ynni eraill yn buddsoddi mewn cynlluniau cymunedol effeithlonrwydd ynni i gynorthwyo cartrefi ‘tlawd o ran tanwydd’ a’r aelwydydd hynny sy’n cynnwys unigolion â chyflyrau iechyd sy’n cael eu gwaethygu o fyw mewn cartref oer.

Datganiad o Fwriad ar gyfer ECO4 (PDF)

Trwy ein partneriaeth ni â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac EDF, rydyn ni’n annog ceisiadau i’r cynllun ECO4, gan aelwydydd sydd yn berchen ar eu cartrefi, neu’n eu rhentu’n breifat, ac sy'n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Yn meddu ar Dystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer eu cartref sydd â sgôr E neu is, ac

  • Yn cael cymorth lles, neu

  • Gydag incwm aelwyd o dan £31,000, neu

  • Gyda chyflwr iechyd cymwys, er enghraifft, cardiofasgwlaidd, anadlol, imiwnoataliedig neu gyfyngiadau o ran symud.

Os nad ydych chi'n siŵr beth yw sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni cyfredol eich eiddo, gwiriwch yma.

Ar gyfer cartrefi nad ydyn nhw wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy ar hyn o bryd ac sy’n cael eu gwresogi gan drydan, tanwydd solet, nwy petrolewm hylifedig neu olew, mae mesurau a ariennir nodweddiadol yn gallu cynnwys:

  • Inswleiddio waliau ceudod neu waliau solet

  • Inswleiddio atig

  • Inswleiddio ystafell yn y to

  • Gosod paneli solar ffotofoltaig

  • Mesurau gwres adnewyddadwy, er enghraifft pympiau gwres ffynhonnell aer

Ar gyfer cartrefi sydd wedi’u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy ar hyn o bryd, mae'r meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • Rhaid i'ch boeler nwy presennol fod yn foeler cefn neu'n foeler llawr

  • Rhaid i'ch boeler nwy presennol fod yn o leiaf 18 oed fel arfer

  • Rhaid i'ch boeler presennol fod yn foeler nad yw'n cyddwyso

I weld os ydych chi'n gymwys ac i wneud cais nawr, gallwch chi gysylltu â gosodwr ECO4 enwebedig EDF ar gyfer y cynllun hwn - City Energy - trwy glicio ar y ddolen we isod a chwblhau'r arolwg ar y wefan.

Dechrau taith hirach i helpu gydag effeithlonrwydd ynni

Yn anffodus, ni fydd pob cartref neu aelwyd yn addas nac yn gymwys i gael cymorth ariannol ar hyn o bryd.
 
Y newyddion cadarnhaol yw bod hyn yn ddechrau cynllun tymor hwy gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, lle bydd gwahanol ffynonellau ariannol neu gyllid yn cael eu cyfuno i annog pobl i ddefnyddio mesurau effeithlonrwydd ynni, gan flaenoriaethu cymorth i aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd.
 
Rydyn ni hefyd yn ymwybodol bod rhai aelwydydd yn gallu bod yn oedrannus neu’n agored i niwed a bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw yn ystod y broses o wneud cais i osod mesurau effeithlonrwydd ynni wedi’u hariannu yn eu cartrefi nhw.
 
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sicrhau bod EDF a’i osodwr enwebedig yn cymryd pob gofal wrth ymdrin â’r aelwydydd hyn – gan gynnwys mesurau diogelu arfer gorau megis cael gofalwr neu berthynas ar y safle.
 
Bydd y cynlluniau ECO4 ac ECO Flex yn weithredol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili rhwng 18 Mai 2023 a 31 Mawrth 2026.
 
Os ydych chi'n derbyn mesurau effeithlonrwydd ynni o dan y cynllun hwn, byddwch yn ymwybodol y bydd y contract rhwng perchennog y cartref a’r contractwr, nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
 
Ni fydd y Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golledion sy'n cael eu hachosi neu sy’n gallu cael eu hachosi o dan y cynllun penodol hwn.
 
 

Cysylltwch â ni