Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Tai    Rhenti a budd-daliadau    Problemau o ran talu eich rhent

Problemau o ran talu eich rhent

A oes angen help arnoch gyda chostau tai neu rent?

A yw costau cynyddol neu leihad mewn incwm yn ei gwneud hi’n anodd i chi gynnal eich tenantiaeth?

Os felly, mae help ar gael.

  • Dylai tenantiaid Cyngor Caerffili decstio RENTHELP i 81400
  • Dylai pob tenant a pherchennog tŷ arall decstio HOUSUPPORT i 81400​

Bydd aelod o staff yn eich ffonio yn ôl.

Os fyddwch yn mynd i ôl-ddyledion – peidiwch ag anwybyddu hynny!

Mae amodau’r denantiaeth, y mae’n rhaid i chi eu llofnodi ar ddechrau eich tenantiaeth, yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu eich rhent yn rheolaidd a pheidio â mynd i ôl-ddyledion. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn talu eich cyfrif rhent yn brydlon.

Y peth pwysicaf yw eich bod yn cysylltu â’r Is-adran Rhenti ar unwaith i ofyn am gyngor cyn i’r ddyled fynd yn rhy fawr i chi ei rheoli. Ffoniwch 01443 811450 neu anfonwch y gair RENTHELP drwy neges destun i 81400 a bydd aelod o staff yn eich ffonio yn ôl. Os nad ydych yn cysylltu â ni, byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr neu dros y ffôn.

Mae angen i chi dalu’r ôl-ddyledion mor gyflym â phosibl, mewn un taliad yn ddelfrydol, er mwyn talu’r cyfanswm.

Byddwn bob amser yn cydymdeimlo â’ch problemau, ac fel arfer gellir dod i gytundeb i dalu’r ddyled. Byddwn yn dweud wrthych sut i hawlio budd-dal tai a hefyd yn rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau cwnsela fel y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cyngor a chymorth cyfrinachol di-dâl gyda chynghorydd dyledion ac ariannol annibynnol i unrhyw un sydd mewn ôl-ddyledion rhent neu sy’n debygol o wynebu sefyllfa o’r fath.

Os nad ydych yn talu eich ôl-ddyledion

Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy lythyr neu’n ymweld â chi yn eich cartref i drafod eich ôl-ddyledion, i drefnu eich taliadau a datrys unrhyw broblemau eraill.

Os nad yw hynny’n llwyddiannus, byddwn yn cyflwyno ‘Hysbysiad Ceisio Meddiant’. Hysbysiad cyfreithiol ydyw i ddweud wrthych ein bod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol os nad ydych yn talu eich ôl-ddyledion.

Os nad ydych yn gwneud trefniadau i dalu’r ôl-ddyledion, byddwn yn gwneud cais i’r Llys Sirol am orchymyn ildio meddiant er mwyn adennill y rhent sy’n ddyledus gennych. Byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy lythyr am holl gamau’r achos cyfreithiol a’r hyn sy’n debygol o ddigwydd.

Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i adennill ôl-ddyledion rhent. Nid ydym eisiau eich troi chi allan, ond gwnawn hynny oni bai eich bod yn talu eich ôl-ddyledion. Hyd yn oed ar ôl eich troi chi allan, byddwn yn ceisio adennill yr ôl-ddyledion rhent a’r costau cyfreithiol yr aed iddynt tra roeddech yn denant.

Beth os ydw i’n aros am daliad budd-dal tai?

Fel arfer ni fyddwn yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn aros i hawliad gael ei brosesu a’ch bod yn gwneud taliadau, ond dylech gysylltu â ni.

Ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid

Daw tenant yn gyn-denant pan ddaw ei denantiaeth i ben. Os ydych mewn dyled ariannol i ni pan ddaw eich tenantiaeth i ben, byddwn yn cysylltu â chi i wneud cytundeb i chi ad-dalu’r rhent. Os bydd hyn yn methu, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i adennill yr arian sy’n ddyledus i ni.

Er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd i ôl-ddyledion rhent pan fyddwch yn symud allan, cysylltwch â ni i ddweud wrthym pryd rydych yn bwriadu symud allan. Yna byddwn yn dweud wrthych faint o rent sy’n daladwy erbyn diwedd y denantiaeth.

Mae ein taflen wybodaeth, 'Ôl-ddyledion cyn-denantiaid' yn esbonio’r broses.

Rhesymau da dros beidio â mynd i ôl-ddyledion rhent

Yn ogystal â wynebu’r risg o gael eich troi allan o’ch cartref, ceir rhesymau eraill pam y dylech osgoi mynd i ôl-ddyledion rhent.

  • Mae’n bosibl y cewch drafferth i gael credyd (gan gynnwys benthyciadau a hurbwrcasu) oherwydd caiff gorchymyn ildio meddiant ei ddatgelu wrth wirio eich statws credyd
  • Efallai na fyddwch yn gallu cael morgais neu fenthyciad arall
  • Ni chaniateir i chi rentu garej
  • Ni fyddwch yn gallu prynu eich cartref dan y cynllun hawl i brynu os byddwch yn torri amodau gorchymyn ildio meddiant
  • Os cewch eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent, fel arfer ni fyddwn yn eich ailgartrefu
Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch hon
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl