Cadw eich cartref rhag lleithder ac anwedd

Ydy eich cartref yn llaith?

 

Yn gyffredinol achosir lleithder trwy ddiffyg yn strwythur yr adeilad. Mae dau fath sylfaenol o leithder: 

  • Lleithder treiddgar pan fydd dŵr yn cael mynediad i’r cartref trwy ddiffyg allanol, e.e. crac yn y wal neu deilsen to yn rhydd. Yn aml bydd y lleithder yn dangos fel darnau tywyll ar waliau a nenfydau sy’n gwaethygu pan fydd hi’n bwrw.
  • Digwydd lleithder codi pan nad oes cwrs lleithder neu fod problem gyda’r cwrs lleithder neu’r bilen a bod dŵr yn codi o’r ddaear i’r waliau neu’r llawr. Symptomau o leithder codi yw marc llanw o hyd at 1 metr uwchlaw’r llawr gyda phapur wal yn pilio a phlaster yn malurio â staen halen. Gallai sgertins a gwaith pren arall ddangos arwyddion o bydredd hefyd.

Anaml y bydd yr achosion lleithder hyn â llwydni du ac yn aml yn gadael ‘marc llanw’. 

Os nad ydych chi’n meddwl bod y lleithder yn dod o unrhyw un o’r achosion  hyn, mae’n debyg mai anwedd ydyw.

Beth yw anwedd?

Digwydd anwedd unrhyw bryd ond mae’n fwyaf amlwg yn ystod tywydd oer. Mae’n dechrau fel lleithedd yn yr aer; fel arfer wedi’i gynhyrchu trwy goginio, golchi neu sychu dillad dan do ar reiddiaduron. Pan fydd yn bwrw wynebau oer megis waliau, drychau, teils wal a ffenestri mae’n cyddwyso ac yn ffurfio defnynnau dŵr. Mae’r aer llaith yn codi pan fydd hi’n gynnes ac yn aml yn gorffen ar nenfydau ac mewn ystafelloedd lan lofft sy’n oerach na gweddill y tŷ. Mae anwedd i’w ganfod mewn corneli, neu ar ffenestri, y tu fewn neu’r tu ôl i gypyrddau dillad a chypyrddau. 

Gall anwedd cyson arwain at dwf llwydni sy’n ymddangos fel darnau o smotiau du ar waliau a nenfydau. 

Atal anwedd

Cynhyrchu llai o leithedd:

  • Gorchuddio sosbenni
  • Sychu dillad yn yr awyr agored
  • Awyru eich peiriant sychu dillad i’r awyr agored
  • Osgoi defnyddio gwresogyddion paraffin neu nwy botel heb ffliw

Awyru i dynnu’r lleithedd:

  • Awyru’r cartref i gyd, yn enwedig pan fydd rhywun adref
  • Cynyddu awyru’r gegin ac ystafell ymolchi pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio a chau’r drws
  • Awyru cypyrddau a chypyrddau dillad
  • Peidio â chau fentiau parhaol
  • Cadw awyryddion ‘diferynnau’ ar agor cymaint â phosibl 

Cynheswch eich cartref ychydig yn fwy: 

  • Os yw’n bosibl, cadwch wres cefndir yn isel drwy’r dydd, gydag awyru cefndir 

Beth yw llwydni du?

 

Mae llwydni du yn sbôr sy'n tyfu mewn ardaloedd lle mae gormod o leithder a lle mae yna ddiffyg awyru. Mae’n gadael aroglau tamp a thrymaidd ac, os na chaiff ei drin, mae’n gallu bod yn niweidiol i iechyd pobl. 

 

Ble rydych chi’n gallu dod o hyd iddo?

 

Fel arfer, rydych chi’n gallu ei ganfod mewn corneli ystafelloedd, y tu ôl i ddodrefn ac o amgylch ffenestri a drysau. Hefyd, mae’n gallu bod yn bresennol ar ddillad y tu mewn i gypyrddau dillad. Mae ystafelloedd ymolchi a cheginau yn gallu dangos tystiolaeth o lwydni du ar deils a thapiau. 

 

Atal a thrin llwydni du

 

Mae llwydni du angen lleithder i dyfu. Mae'n bwysig lleihau'r lleithder sy'n cael ei gynhyrchu ac awyru'ch cartref chi'n dda. 

  • Dylech chi gael gwared ar unrhyw leithder ar ddrysau, ffenestri a siliau bob bore i atal llwydni a'i drin â thoddiant gwrth-lwydni rydych chi’n gallu ei brynu'n rhad ac yn lleol. 

  • Dylech chi osgoi rhoi dodrefn a chypyrddau dillad yn erbyn waliau gan fod hyn yn atal cylchrediad aer. 

  • Sychwch unrhyw arwyddion o lwydni du gyda thoddiant gwrth-lwydni i atal tyfiant. Sylwch, ni fydd cannydd (bleach) yn lladd y sborau yn llwyr a bydd yn caniatáu iddyn nhw aildyfu.  

Cael gwared â llwydni

 

Wrth ddelio â llwydni, dylai diogelwch fod yn brif flaenoriaeth bob amser; gall lledaenu'r llwydni o amgylch eich cartref chi waethygu'r broblem. Trwy ddilyn y camau hyn, gallwch chi gael gwared â llwydni o'ch cartref chi'n effeithiol wrth gadw'ch hun a'ch teulu chi'n ddiogel. 

Er mwyn sicrhau eich diogelwch chi, dilynwch y cyfarwyddiadau ar label y cynnyrch bob amser oherwydd mae'r rhain yn gallu amrywio. 

Mae yna ychydig o gamau pwysig y dylech chi eu cymryd cyn dechrau'r broses o gael gwared â llwydni: 

  • Defnyddiwch fioladdwyr yn ddiogel bob amser a darllen y label a'r wybodaeth am y cynnyrch cyn ei ddefnyddio.  

  • Profwch ar ardal anamlwg yn gyntaf. 

  • Rydyn ni'n argymell gwisgo menig rwber/plastig. 

  • Mae'n syniad da gorchuddio'r llawr o dan yr ardal rydych chi'n ei glanhau i ddal unrhyw lwydni sy'n cwympo, ac mae modd cael gwared â hwnnw ar unwaith. 

  • Mae awyru priodol yn yr ystafell hefyd yn allweddol wrth gael gwared â llwydni. Er mwyn caniatáu i sborau llwydni ddianc, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n agor ffenestr neu ddrws allanol. Bydd hyn yn helpu atal y llwydni rhag lledaenu i rannau eraill o'ch cartref chi. 

  • Pan ddaw i gynhyrchion glanhau, mae'n well defnyddio chwistrellydd dileu llwydni. Mae modd dod o hyd i'r chwistrellyddion hyn yn hawdd ar-lein neu mewn siopau nwyddau metel neu archfarchnadoedd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y cynnyrch glanhau llwydni yn ofalus gan y bydd pob cynnyrch yn amrywio. 

  • Unwaith y byddwch chi wedi cael eich cynnyrch glanhau, rhowch e ar yr ardal sydd wedi'i heffeithio a gadael iddo i wneud ei waith.  Mae modd defnyddio lliain neu hances dafladwy i sychu unrhyw weddillion.  

  • Unwaith y byddwch chi wedi gorffen glanhau, gofalwch eich bod chi'n gadael i'r ardal sychu'n llwyr cyn cau'r ffenestr. 

Os oes gennych chi broblemau gyda lleithder neu lwydni yn eich cartref chi, ac nad oes modd eu datrys eich hun, yna cysylltwch â'n Tîm Atgyweirio Canolog, a fydd yn trefnu i syrfëwr ymweld, asesu'r llwydni ac awgrymu atebion i'w rhoi ar waith.  Rydyn ni yma i'ch helpu chi a gweithio gyda chi i wella amodau eich cartref.

 

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd gyda biliau gwres, cysylltwch â’ch cyflenwr ynni am dariffau amgen. Mae gwybodaeth bellach a chyngor i’w cael hefyd ar ein tudalennau gwe arbedion ynni cartrefdefnyddio ynni'n effeithlon.