Rhoi gwybod am waith atgyweirio

I roi gwybod am waith atgyweirio yn ystod oriau gwaith, ffoniwch ein Tîm Atgyweirio Canolog ar 01443 864886, anfon e-bost at AtgyweirioCyflym@caerffili.gov.uk,  neu cysylltwch â’ch swyddfa dai leol. (Os ydych chi'n cysylltu â nhw dros y ffôn, pwyswch Opsiwn 1).

Ar gyfer gwaith atgyweirio brys pan fo’r swyddfeydd tai ar gau, ffoniwch 01443 875500.

Os ydych yn meddwl bod nwy yn gollwng yn eich cartref, ffoniwch wasanaeth brys Wales and West Utilities ar 0800 111999.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am atgyweiriad?

Pan fyddwch chi’n rhoi gwybod am waith atgyweirio i ni, byddwn ni’n gwirio a ydyn ni eisoes wedi cael gwybod amdano neu os bydd yn cael ei wneud fel rhan o'n Strategaeth Cynnal a Chadw Asedau Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol a darparu amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith. Byddwn ni hefyd yn gwirio os taw cyfrifoldeb Deiliad y Contract neu'r prydleswr (mewn fflatiau) yw’r gwaith atgyweirio.

Byddwn yn blaenoriaethu pa mor gyflym y dylem ymateb a gallwn ddweud wrthych pa flaenoriaeth yw eich gwaith atgyweirio pan fyddwch yn rhoi gwybod amdano.

  • Blaenoriaeth 1 – Argyfwng y tu allan i oriau – 2 awr (wedi’i atgyweirio neu ei wneud yn ddiogel)
  • Blaenoriaeth 2 – Argyfwng yn ystod oriau gwaith – 24 awr (wedi’i atgyweirio neu ei wneud yn ddiogel)
  • Blaenoriaeth 3 – Apwyntiad – 20 diwrnod diwrnod gwaith
  • Blaenoriaeth 5 – Apwyntiad – 45 diwrnod diwrnod gwaith
  • Blaenoriaeth 7 – Gwaith contract arbenigol – 66 diwrnod gwaith
  • Blaenoriaeth 8 – Apwyntiad yn dilyn archwilio’r gwaith ymlaen llaw – 60 diwrnod gwaith

Pan fydd gwaith atgyweirio, gwaith arolygu neu apwyntiad yn cael ei drefnu, mae modd derbyn neges destun ar ddyfais symudol y Deiliad Contract i gadarnhau'r apwyntiad.  Mae modd hefyd dderbyn ail neges destun fel nodyn atgoffa ar y diwrnod cyn yr apwyntiad.

Pwy fydd yn gwneud y gwaith atgyweiro?

Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith atgyweirio yn cael ei wneud gan ein tîm Gweithrediadau Atgyweirio Tai. Fodd bynnag, weithiau rydyn ni’n defnyddio contractwyr allanol ar gyfer rhai atgyweiriadau, gan gynnwys gwaith arbenigol fel atgyweiriadau a gwasanaethu nwy, pympiau gwres ffynhonnell aer/o’r ddaear, gwaith to gwastad, atal lleithder, lifftiau grisiau a pheiriannau codi wedi’u cysylltu â’r nenfwd.

Rhaid i bob aelod o weithlu'r cyngor a chontractwyr gydymffurfio â'r ‘Siarter Ymddiried (PDF)’ wrth weithio yn eich cartref.

Efallai y cânt gysylltu â chi ar ôl cwblhau’r gwaith atgyweirio i gael eich barn.

Polisïau cysylltiedig

Polisi Atgyweiriadau y Gellir Ailgodi Tâl Amdanynt (Sylwch – Mae’r ddogfen hon yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd i adlewyrchu’r ddeddfwriaeth newydd. Bydd y fersiwn diweddaraf ar gael maes o law.)

Polisi Atgyweiriadau Ymateb Tai