Gwasanaeth Dosbarthu i’r Cartref LibraryLink

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili bellach yn cynnig gwasanaeth benthyca a dosbarthu llyfrau i gartrefi preswylwyr cymwys. 

Wedi'i ddosbarthu drwy Wasanaeth Dosbarthu i Gartrefi LibraryLink, bydd preswylwyr cymwys yn cael deunyddiau darllen neu wrando a ddewisir yn benodol gan staff gwybodus ein llyfrgelloedd. Gwneir dosbarthiadau bob 6 wythnos.

I wneud cais am y gwasanaeth hwn rhaid cwrdd ag un o’r meini prawf cymhwysedd canlynol. Sylwer, dim ond i’r unigolyn sy’n gymwys y gellir gwneud y cynnig hwn ac nid yw’n agored i eraill sy’n byw yn yr un cyfeiriad, heblaw eu bod yn cwrdd â’r cymhwysedd.

  • bod yn ddefnyddiwr cofrestredig cyfredol y gwasanaeth LibraryLink
  • bod dros 70 oed a heb fynediad at gynnig e-Ddigidol y gwasanaeth llyfrgelloedd sy’n cynnwys e-Llyfrau, e-Llyfrau Llafar, e-Gylchgronau neu e-Gomics.
  • Wedi derbyn llythyr gwarchod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru – waeth beth fo’ch oedran.

I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth LibraryLink, llenwch ein ffurflen gais.

Gwnewch gais ar gyfer y Gwasanaeth Dosbarthu i’r Cartref LibraryLink >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Os nad ydych yn gallu llenwi'r ffurflen, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.