Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Gwneud taliad    Talu eich rhent

Talu eich rhent

Adolygiad Rhent a Fforddiadwyedd 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gofyn i denantiaid fynegi'u barn ynghylch a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg, fforddiadwy ac os yw'r gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn yn rhoi gwerth am eu harian. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor fel rhan o'i adolygiad rhent a fforddiadwyedd, a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu i ddylanwadu ar sut mae'n gosod rhent yn y dyfodol.

Gofynnir i denantiaid fynegi'u barn trwy lenwi arolwg byr ar-lein y mae modd dod o hyd iddi ar wefan y Cyngor. 

Bydd yr arolwg yn gorffen ddydd Mawrth 15 Rhagfyr.  Bydd pob tenant sy'n cymryd rhan ac yn darparu eu manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill talebau siopa'r stryd fawr gwerth £50.

Am ragor o wybodaeth, neu help i lenwi'r arolwg, ffoniwch Dîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned y Cyngor ar 01443 811433 / 811432 neu e-bostio CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.
 


Rydym yn eich annog i dalu rhent yn brydlon, a gallwch ddewis un o’r dulliau canlynol:

Drwy Ddebyd Uniongyrchol

Rydym yn annog pob tenant i dalu rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Bydd talu drwy Ddebyd Uniongyrchol yn arbed cryn dipyn o amser ac ymdrech i chi. Mae hynny gan nad oes angen ysgrifennu sieciau, does dim gwaith papur a dim costau postio, ac nid oes angen ciwio gan ein bod yn gallu trefnu eich taliadau ar eich rhan gyda’ch banc neu gymdeithas adeiladu. Mae’n fwy diogel na defnyddio arian parod hefyd, ac ar ben hyn, os byddwch yn newid eich dull talu i Ddebyd Uniongyrchol cewch daliad untro o £20, a gredydir i’ch cyfrif rhent. Caiff y Debyd Uniongyrchol ei gymryd yn fisol mewn ôl-daliadau ar ddiwrnod gwaith olaf bob mis.

I gael ffurflen Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’r Adran Rhenti neu lawrlwythwch ffurflen isod:

Ffurflen Debyd Uniongyrchol Rhent Tai (PDF 1.8mb)

Ar-lein

Gallwch dalu eich rhent yn ddiogel ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Bydd angen eich rhif cyfrif rhent arnoch, a bydd angen i chi wybod faint rydych am ei dalu.

Talu eich rhent ar-lein

Dros y ffôn

Y rhif ffôn awtomatig 24 awr y dydd ar gyfer talu â cherdyn credyd neu ddebyd yw 01443 863366. Bydd angen i chi wybod eich rhif cyfrif rhent a’r swm rydych am ei dalu i wneud hynny.

Mewn person

Gallwch dalu mewn person gydag arian parod neu siec yn unrhyw un o’n swyddfeydd arian parod neu yn ein canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid.

Swyddfa bost

Gallwch hefyd dalu yn y swyddfa bost. Cliciwch yma am fanylion ar sut i wneud cais am gerdyn swyddfa bost.

Drwy'r post

Gellir talu â siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’. Nid ydym yn derbyn sieciau ôl-ddyddiedig na sieciau trydydd partïon.

Dylid anfon taliadau i’r cyfeiriad canlynol:

Swyddfa Arian Parod
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed CF82 7PG

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post a nodwch rif eich cyfrif rhent ar gefn y siec neu’r archeb bost.

Yn eich cangen Swyddfa’r Post

Os hoffech dalu yn eich cangen swyddfa’r post, ffoniwch 01443 866583.

Talu drwy fudd-dal tai

Mae budd-dal tai ar gael i helpu tenantiaid di-waith neu denantiaid sydd ar incwm isel i dalu rhent.

Chi sy’n gyfrifol am dalu eich rhent, a rhaid i chi dalu’r swm sy’n weddill ar ben y swm a delir drwy’r budd-dal tai. Byddwn hefyd yn disgwyl i chi wneud trefniadau i dalu unrhyw ôl-ddyledion sy’n weddill. Gall ôl-ddyledion gronni’n gyflym iawn os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani neu os na fyddwch yn gwneud cais arall pan fo’ch amgylchiadau’n newid neu pan gaiff eich cais ei adolygu.

Ydych chi’n cael anawsterau o ran talu eich rhent?

Mae amodau’r denantiaeth, y mae’n rhaid i chi eu llofnodi ar ddechrau eich tenantiaeth, yn golygu bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu eich rhent yn rheolaidd a pheidio â mynd i ddyledion. Os nad ydych yn talu eich rhent mewn pryd, neu os nad ydych yn talu o gwbl, bydd rhaid i ni gymryd camau cyfreithiol a all olygu y gallech golli eich cartref.

Ewch i’n gwefan Problemau o ran talu eich rhent? am ragor o wybodaeth a chyngor.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch hon
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl