Benthyca Arian Anghyfreithlon

Mae Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru (WIMLU) yn targedu benthycwyr arian anghyfreithlon, a elwir yn siarcod benthyg arian. Mae’r uned yn edrych ar achosion o fenthyca anghyfreithlon ac unrhyw droseddau cysylltiedig yn ogystal â chefnogi dioddefwyr. Mae benthycwyr anghyfreithlon yn amrywio o fân droseddwyr i rai treisgar, trefnus.

Mae benthyca arian anghyfreithlon yn drosedd. Mae benthycwyr arian anghyfreithlon yn gweithredu heb drwydded, yn aml yn targedu pobl ifanc sy’n agored i niwed.  

  • Mae’r rhan fwyaf yn ddigon cyfeillgar i ddechrau, ond mae eu hymddygiad yn newid pan fydd taliadau’n cael eu methu.
  • Prin bod benthycwyr arian anghyfreithlon yn hysbysebu - mae pobl yn aml yn cael gwybod amdanynt ar lafar.
  • Nid yw’r rhan fwyaf o fenthycwyr arian anghyfreithlon yn defnyddio gwaith papur.
  • Yn aml maen nhw’n cymryd cardiau arian parod/cardiau swyddfa’r post a rhifau PIN i sicrhau’r benthyciad. 

I roi gwybod am fenthyciwr arian anghyfreithlon, cysylltwch â WIMLU. Mae gan yr Uned linell 24 awr (0300 123 3311), neu gallwch e-bostio imlu@cardiff.gov.uk.

Unusual suspects

Edrychwch ar ‘Unusual Suspects’, ffilm fer gan Dîm Cefnogi Pobl Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i godi ymwybyddiaeth o fenthyg arian anghyfreithlon oddi wrth siarcod benthyg.