Sut mae gwneud sylwadau ar gais cynllunio?

Gallwch fynegi eich barn i ni ar geisiadau cynllunio. Cyn i chi wneud eich sylwadau, bwriwch olwg ar y cais a'r cynlluniau. Dylech wneud sylwadau o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad a roddir ar eich llythyr hysbysu.

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio. Ni fydd angen i chi gael llythyr ymgynghori er mwyn cael gwneud sylwadau. Dylai unrhyw sylwadau gael eu gwneud yn ysgrifenedig, a rhaid iddynt gynnwys y dyddiad, eich enw a'ch cyfeiriad, rhif y cais a chyfeiriad y safle, a dangos yn glir a ydych yn cefnogi'r cais neu'n gwrthwynebu'r cais. Dyma sut gallwch wneud sylwadau:

Dim ond sylwadau sy'n ymwneud â materion cynllunio perthnasol y gallwn eu hystyried, megis: 

  • Colli preifatrwydd
  • Colli golau neu gysgodi
  • Parcio
  • Diogelwch ar y briffordd
  • Traffig
  • Sŵn

Ni allwn ystyried materion eraill, megis y rhai canlynol, yn rhesymau dilys dros wrthwynebu cais cynllunio.

  • Materion preifat rhwng cymdogion, e.e. anghydfod ynghylch tir/ffiniau, difrod i eiddo, hawliau tramwy preifat, cyfamodau ac ati.
  • Colli gwerth eiddo
  • Materion personol yn ymwneud â'r ymgeisydd penodol

Cyhoeddi sylwadau

Bydd yr holl sylwadau a ddaw i law mewn perthynas â cheisiadau cynllunio yn wybodaeth gyhoeddus, felly, byddant ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio. Ni fydd eich llofnod, eich cyfeiriad e-bost na'ch rhif ffôn ar gael i'w gweld.

Byddwch yn ymwybodol mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau na fyddwch yn cynnwys unrhyw iaith dramgwyddus, ddifenwol neu wahaniaethol yn eich sylwadau; bydd yn rhaid i ni eu hanfon i'r awdurdod perthnasol, a gallech gael eich dal yn gyfreithiol gyfrifol am hyn yn y dyfodol. Ni fydd unrhyw sylwadau o'r fath yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar gais.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud sylwadau?

Mae nifer fawr o sylwadau'n dod i law, felly, ni allwn gydnabod bod eich sylwadau wedi dod i law ac ni allwn ymateb i gwestiynau a godir, ond bydd eich sylwadau'n cael eu hystyried os ydynt yn faterion cynllunio perthnasol. 

Bydd eich sylwadau'n rhan o adroddiad y Swyddog Cynllunio, a gallant gyfrannu at y penderfyniad cyffredinol. 

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am geisiadau, cyfeiriwch at ein gwefan. Ar ôl i ni benderfynu ar gais, bydd yn bosibl gweld adroddiad y Swyddog Achos a'r hysbysiad penderfynu ar y wefan. Gallwch gael mynediad at y rhain drwy'r system PublicAccess.

 

Cysylltwch â ni