Gwneud cais cynllunio

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Beth sydd angen i chi ei anfon gyda'ch cais?
  • Sut mae gwneud cais?
  • Faint mae'r gost, a sut rydw i'n talu?
  • Ffurflenni i'w lawrlwytho
  • Cais i Addasu a Rhyddhau Cytundebau / Rhwymedigaethau Cynllunio

Beth sydd angen i chi ei anfon gyda'ch cais?

Mae'n bwysig bod pob ffurflen gynllunio yn cael ei hanfon ynghyd â'r dogfennau a'r ffi gywir. Mae gofynion cenedlaethol sylfaenol ar gyfer ceisiadau safonol. Mae arweiniad ar gael yn y gofynion dilysu.

Sut mae gwneud cais?

Rydym yn eich annog i gyflwyno'ch ceisiadau cynllunio ar-lein drwy Ceisiadau Cynllunio Cymru. Os ydych yn ansicr o ran pa ffurflen gais sydd ei hangen arnoch, ewch i'r adran pethau i'w hystyried cyn i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Dechrau cais cynllunio ar-lein

Gallwch hefyd argraffu ffurflen gais, a'i hanfon atom. Gweler isod.

Beth ydy'r gost?

Mae cost gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn dibynnu ar ba fath o waith rydych am ei wneud. 

Lawrlwytho'r ffioedd diweddaraf

Sut mae talu?

Bydd angen i chi dalu'r ffi ofynnol cyn y gallwn ddechrau prosesu eich cais.

Mae gwneud cais ar-lein yn syml ac yn ddiogel. Dyma'r cardiau rydym yn eu derbyn: Maestro UK, MasterCard Debit, Visa Debit (Delta, Electron), Visa Credit, a MasterCard Credit.

Talu ar-lein >

O.N. Darllenwch y nodyn canllaw hwn ar gyfer talu ar-lein

Talu drwy BACS – Bydd angen y manylion canlynol arnoch:

  • Rhif ein cyfrif banc yw 93455750
  • Ein cod didoli yw 20-10-42
  • Enw ein cyfrif yw “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili”
  • Bydd angen cyfeirnodi eich taliad. Rydym hefyd yn gofyn i chi roi gwybod i ni eich bod wedi talu drwy anfon e-bost i cynllunio@caerffili.gov.uk.

Drwy'r post – Rhaid i daliadau fod drwy siec wedi ei chroesi neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’ (nid yw sieciau ôl-ddyddiedig yn dderbyniol). Cyfeirnodwch eich taliad ar gefn eich siec neu archeb bost. 

Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.

Ffurflenni cynllunio i'w lawrlwytho

Byddem bob amser yn argymell eich bod yn gwneud cais ar-lein.  Fodd bynnag, gallwch lawrlwytho'r ffurflenni safonol oddi ar y Porth Cynllunio, a'u hanfon atom drwy'r post.

Dod o hyd i'r ffurflenni papur, a'u lawrlwytho >  

Cais i Addasu a Rhyddhau Cytundebau / Rhwymedigaethau Cynllunio

Ar gyfer ceisiadau i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i addasu neu ryddhau cytundeb/rhwymedigaeth cynl[1]lunio yn unol ag Adran 52 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1971 neu Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Llenwch y ffurflen atodedig.

Hysbysiadau preifatrwydd - Prosesu Ceisiadau Cynllunio (PDF)

Isadran Cynllunio 
Tŷ Penallta
Parc Tredomen 
Ystrad Mynach 
Hengoed 
CF82 7PG
Cysylltwch â ni