Siarad gerbron pwyllgor cynllunio
Ar hyn o bryd, mae cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio yn cael eu cynnal o bell trwy Microsoft Teams bob mis (ac eithrio'r Nadolig). Oherwydd cyfyngiadau mewn perthynas â COVID-19, nid yw'r cyfarfodydd ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd, ond gallwch chi barhau i wneud sylwadau ar unrhyw fater ar agenda'r pwyllgor.
Cliciwch yma i weld cyfarfodydd y pwyllgor cynllunio sydd ar ddod
Os ydych yn dymuno siarad gerbron y cyfarfod, rhaid i chi gysylltu â’r is-adran Gwasanaethau Pwyllgor drwy ffonio 01443 864245 neu e-bostio gwasanaethaupwyllgor@caerffili.gov.uk erbyn 5pm ar y Dydd Llun cyn y cyfarfod pwyllgor lle penderfynir ar y cais.
Rydym wedi llunio’r canlynol 'Canllaw i Siarad gerbron y Pwyllgor Cynllunio' i fod o gymorth i chi.