Rheoli perygl llifogydd – â phwy i gysylltu os oes llifogydd lle rydych chi neu os ydych mewn perygl llifogydd

Nid oes un corff unigol yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd ac mae’r cyfrifoldeb ar y cyd gan nifer o gyrff. Cyn ichi roi gwybod inni am lifogydd, darllenwch y wybodaeth isod er mwyn penderfynu pwy sy’n gyfrifol am hyn.

Darllenwch ein siart llif o gysylltiadau ynghylch llifogydd i ganfod â phwy mae angen ichi siarad (PDF)

Os oes llifogydd lle rydych chi y funud hon, ffoniwch 999.

Cwlfertau priffyrdd, draeniau, llifogydd dŵr wyneb a llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin

Ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) sy’n gyfrifol am gwlfertau priffyrdd, draeniau, llifogydd dŵr wyneb a llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin. 

O dan Ddeddf Draenio Tir 1991, mae gennym bwerau gorfodi i sicrhau y caiff unrhyw rwystrau a allai achosi perygl llifogydd mewn cwrs dŵr eu tynnu ymaith. Ni sy’n gyfrifol am roi Caniatâd Cwrs Dwr Cyffredin ar gyfer gwaith dros dro neu barhaol mewn cwrs dŵr neu’n agos at gwrs dŵr (ac eithrio amddiffynfeydd rhag llifogydd a phrif afonydd).

Mae rhai o’r cwlfertau yr ydym yn eu cynnal a’u cadw ar ‘Gofrestr Cwlfertau Tywydd Garw’ a gyflwynasom yn 2002 i nodi a thynnu sylw at gwlfertau (y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’n gyfrifol amdanynt) y bernir bod mwy o botensial iddynt achosi llifogydd ar briffyrdd, eiddo ac asedau eraill. Pan gawn hysbysiad tywydd garw gan ddaroganwyr tywydd, mae hyn yn hysgogi dechrau ar weithdrefn archwilio a glanhau cyflym gan ein Gwasanaethau Contractio Rhwydwaith. Mae’r broses yn cynnwys archwiliad cychwynnol ar bob safle ynghyd â gwaith glanhau adferol ar raddfa fach fel bo angen. Caiff adnodd ar wahân ei ddefnyddio wedyn os bydd angen glanhau ar raddfa fwy.

Caiff y gylïau yn y priffyrdd sy’n eiddo i’r Cyngor eu glanhau’n gylchol bob 6 mis. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod problem gyda gyli neu bibell wedi’i rwystro sy’n achosi problemau llifogydd, rhowch wybod inni amdano.

Cyrsiau dŵr critigol a phrif afonydd

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am y cyrsiau dŵr critigol a’r prif afonydd.

Mynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwybodaeth

Carthffosydd dŵr wyneb cyhoeddus a charthffosydd budr

Dŵr Cymru sy’n gyfrifol am garthffosydd dŵr wyneb cyhoeddus a charthffosydd budr.

Mae carthffosydd dŵr wyneb cyhoeddus yn darparu ar gyfer dŵr glaw sy’n llifo oddi ar dir ag arwyneb solet a darnau eraill o dir sy’n gyffredinol anhydraidd fel meysydd parcio, tir diwydiannol a mannau amwynder cyhoeddus, ac oddi ar doi adeiladau.

Mae carthffosydd budr yn cludo dŵr gwastraff o fangreoedd domestig, masnachol a diwydiannol i gael ei drin mewn gweithfeydd carthffosiaeth.

Mynd i wefan Dŵr Cymru i gael gwybodaeth

Cyrsiau dŵr ar dir preifat

Y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod y dŵr yn llifo’n ddirwystr mewn unrhyw gyrsiau dŵr ar ei dir. Mae’r diffiniad o gwrs dŵr yn Neddf Draenio Tir 1991 yn cynnwys yr holl afonydd a nentydd a’r holl ffosydd, draeniau, sianelau, cwlfertau, llifddorau, carthffosydd (ar wahân i garthffosydd cyhoeddus o fewn ystyr Deddf y Diwydiant Dŵr 1991) ac unrhyw dramwyfeydd mae dŵr yn llifo trwyddynt.

Rhaid i waith cynnal a chadw gael ei wneud ar y cwrs dŵr (ar eich tir chi) i glirio unrhyw rwystrau fel na fydd effaith ar y llif. Mae hyn yn cynnwys y gwely a’r glannau, cwlfertau, coredau, llifddorau a sgriniau ysbwriel. 

Rhaid i’r perchennog glan afon dderbyn y llif naturiol oddi wrth y cymydog i fyny’r llif a chaniatáu iddo basio’n ddirwystr i’r derbynnydd i lawr y llif heb effaith ar y llif (gan gynnwys ei rwystro, ei lygru neu ei ddargyfeirio).

Ar gyfer unrhyw newidiadau bydd angen caniatâd cwrs dŵr cyffredin y gellir ei gael oddi wrthym ni neu oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ddibynnu ar ddynodiad y cwrs dŵr.

Mynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael canllaw ar hawliau a chyfrifoldebau perchnogion eiddo ar lan afon yng Nghymru.

Problemau ar dir preifat

Fel arfer, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw problemau ar dir preifat. Mae’r rhain yn cynnwys ffynhonnau, dŵr daear a dŵr sydd ar eich tir chi yn gyfan gwbl. 

Dŵr daear yw’r term a roddir i unrhyw ddŵr a geir o dan wyneb y ddaear sy’n llenwi holltiadau a lleoedd gwag yn yr haenau o bridd a chraig. Ar ddyfnder penodol, mae’r pridd a’r graig yn mynd yn ddirlawn o ddŵr sydd wedi tryddiferu trwy’r ddaear. Y lefel trwythiad yw’r enw a roddir ar y ffin uchaf hon. Nid yw’r lefel trwythiad yn sefydlog - mae’n codi ac yn disgyn gan ddibynnu ar y tywydd.  

Yn ystod cyfnodau estynedig o dywydd gwlyb, mae’r lefel trwythiad yn debygol iawn o godi, a hyd yn oed dod allan uwchben lefel y ddaear. Gall hyn arwain at lifogydd dŵr daear. 

Arwyddion mwyaf cyffredin hyn yw:

  • Dŵr yn dod allan trwy wyneb y ddaear,
  • Dŵr yn tryddiferu, fel arfer trwy’r llawr/waliau cynnal/islawr,
  • Llifogydd yn aros am gyfnod estynedig ar ôl tywydd gwael,
  • Llifogydd yn digwydd yn dymhorol, 
  • Llifogydd/dŵr yn tryddiferu rhywfaint o amser ar ôl digwyddiadau glaw.

Os oes llifogydd yn eich eiddo, rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch cwmni yswiriant cartref i gael rhagor o gyfarwyddyd. Cymorth cyfyngedig y gallwn ei ddarparu i ddelio â phroblemau dŵr daear gan y bernir mai mater preifat yw hyn:

  • Llifogydd mewnol yn yr eiddo: Rhowch wybod i’ch cwmni yswiriant cartref. Gofynnwn ichi hefyd roi gwybod inni am hyn gan y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddeall yn well perygl llifogydd dŵr daear mewn ardal.

  • Llifogydd allanol: Yn anffodus, ychydig iawn o gymorth y gall ein tîm draenio ei ddarparu. Os yw llifogydd dŵr daear wedi effeithio ar eich eiddo, byddwn yn eich cyfeirio chi at ffynonellau cyngor. Rydym yn dal i’ch cynghori i gysylltu â’ch cwmni yswiriant, a ddylai allu’ch cynghori ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud.