Biniau graean

Mae dros 900 o finiau graean wedi’u dosbarthu i leoliadau allweddol ar draws y fwrdeistref i’w defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus, ardaloedd cyhoeddus i gerddwyr a llwybrau troed cyhoeddus yn unig.

Cliciwch yma i weld fersiwn tudalen llawn

 

 

Gofyn am fin graean newydd

Mae penderfyniadau wedi’u gwneud yn barod ynglŷn â’r biniau graean newydd a gaiff eu dosbarthu'r gaeaf hwn, felly ni fydd unrhyw finiau graean newydd eraill yn cael eu darparu'r gaeaf hwn. Fodd bynnag, er mwyn gofyn i ni ystyried rhoi bin graean i’ch ardal erbyn y gaeaf nesaf, llenwch y ffurflen isod.

Caiff ceisiadau eu hasesu gan ddefnyddio ein meini prawf cymeradwy sy’n seiliedig ar anghenion, a bydd cynghorwyr trefi a wardiau’n penderfynu yn eu cylch.

Caiff lleoliad pob bin graean newydd ei adolygu er mwyn sicrhau bod modd mynd ato i’w ail-lenwi a sicrhau nad yw’r bin graean yn rhwystr, yn beryglus neu’n arwain at broblemau diogelwch. Ni chaiff biniau graean eu gosod ar ffyrdd neu ar ardaloedd i gerddwyr sy’n rhan o lwybrau a gaiff eu trin gennym yn barod neu sydd â bin graean yn barod, oni bai bod rheswm penodol dros eu gosod yno.

Ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar unwaith ar ôl i chi gyflwyno cais am fin graean. Yn ogystal, efallai na chaiff unrhyw finiau graean ychwanegol eu darparu tan ddechrau tymor nesaf gwasanaeth gaeaf yr adran briffyrdd. Y rheswm am hynny yw bod yn rhaid i bob cais am fin graean gael ei adolygu yn erbyn pob cais arall, a bod yn rhaid i ni flaenoriaethu ar sail anghenion ardaloedd.

Camddefnyddio biniau graean

Rydym wedi cael gwybod am achosion lle ceir amheuaeth bod biniau graean yn cael eu defnyddio’n amhriodol, gan gynnwys adroddiadau bod llawer o raean yn cael ei roi mewn bagiau a’i gludo i ffwrdd.

Dim ond ar ffyrdd cyhoeddus ac ar ardaloedd cyhoeddus i gerddwyr/llwybrau troed cyhoeddus y dylid defnyddio’r graean sydd yn y biniau graean. Ni cheir defnyddio’r graean i raeanu eiddo preifat.

Gofyn i ni ail-lenwi bin graean 

Rydym yn llenwi pob bin graean ar y priffyrdd ar ddechrau tymor y gaeaf. Yna, rydym yn monitro faint o raean sydd yn y biniau ac yn eu llenwi’n wythnosol pan fydd galw mawr am raean. Fodd bynnag, os ydych yn gwybod am fin graean nad yw wedi’i lenwi yn ystod y gaeaf hwn, rhowch wybod i ni.

Os oes angen i ni ddiogelu cyflenwadau graean, efallai y bydd yn rhaid i ni ail-lenwi’r biniau’n llai aml.

Rydym yn monitro’n rheolaidd lefelau’r graean sydd yn y biniau yn ôl y tywydd. Os byddwn yn gweld bod lefelau’r graean yn gostwng yn gynt na’r disgwyl, gallai hynny ein harwain i amau bod y graean yn cael ei ddefnyddio’n amhriodol. Os bydd ein hymchwiliadau’n profi bod y graean yn cael ei ddefnyddio’n amhriodol, gallwn fynd â’r bin graean oddi yno’n barhaol.

Sut y mae rhoi gwybod bod bin graean wedi’i ddifrodi?

I roi gwybod bod bin graean wedi’i ddifrodi, cysylltwch â thîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.

Dylech nodi union leoliad y bin sydd wedi’i ddifrodi.

Dylech gofio mai dim ond nifer gyfyngedig o finiau graean newydd sydd gennym i’w rhoi yn lle hen rai bob blwyddyn, sy’n golygu na fyddwn efallai’n gallu rhoi bin newydd ar unwaith yn lle hen fin sydd wedi’i ddifrodi. Os byddwch yn gweld unrhyw un yn difrodi’r biniau graean, rhowch wybod i ni yn y modd a nodir uchod.

Pam y mae’r cyngor yn darparu biniau graean? Pam na all wneud yr holl waith graeanu yn lle hynny?

Gan nad yw’n bosibl i’n lorïau graeanu wasgaru graean ar hyd pob ffordd a phalmant yn y fwrdeistref, rydym wedi darparu biniau graean mewn mannau allweddol ar draws y fwrdeistref i alluogi preswylwyr, modurwyr a cherddwyr i wasgaru’r graean ar y briffordd gyhoeddus ac ar ardaloedd cyhoeddus i gerddwyr. 

A allaf ddefnyddio’r graean a ddarparwyd i raeanu fy eiddo fy hun?

Na allwch. Ni chaniateir i’r graean sydd yn y biniau graean gael ei ddefnyddio i raeanu eiddo preifat – dim ond ar ffyrdd cyhoeddus ac ar ardaloedd cyhoeddus i gerddwyr/llwybrau troed cyhoeddus y dylid ei ddefnyddio.

Mae graean ar gyfer eiddo preifat ac at ddefnydd personol ar gael i’w brynu oddi wrth fasnachwyr adeiladu ac o siopau DIY.

Rydym yn monitro’n rheolaidd lefelau’r graean sydd yn y biniau yn ôl y tywydd. Os byddwn yn gweld bod lefelau’r graean yn gostwng yn gynt na’r disgwyl, gallai hynny ein harwain i amau bod y graean yn cael ei ddefnyddio’n amhriodol a’n gorfodi i fynd â’r bin graean oddi yno’n barhaol.

A oes modd i’r cyngor gyflenwi graean yn uniongyrchol i aelodau’r cyhoedd?

Ni fydd graean y cyngor yn cael ei gyflenwi i aelodau’r cyhoedd. Bydd pobl yn gofyn i ni’n aml a oes modd i ni adael ychydig o raean gyda nhw, neu a oes modd iddynt ddod i gasglu rhywfaint o raean o’r depo, ond rhaid i ni ddiogelu ein cyflenwadau er mwyn i ni allu cynnal ein rhwydwaith ffyrdd hanfodol a’r palmentydd y mae llawer o bobl yn cerdded arnynt, a bod â digon i lenwi biniau graean y fwrdeistref.

Pa fath o raean sy’n cael ei roi yn y biniau graean?

Nid yw’r graean yn y biniau’n wahanol i’r graean yr ydym yn ei ddefnyddio i drin ffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr. Y rheswm am hynny yw y dylai’r graean sydd yn y biniau gael ei ddefnyddio ar ffyrdd cyhoeddus ac ar ardaloedd cyhoeddus i gerddwyr.

Mae’r graean yn fwy effeithiol os caiff ei gadw’n sych cyn cael ei wasgaru, felly dylai caeadon biniau graean gael eu cadw ar gau pan na fydd y biniau’n cael eu defnyddio. Os byddwch yn gweld bod caeadon biniau graean wedi’u gadael ar agor, gofynnwn i chi eu cau er mwyn diogelu ansawdd y graean.

Weithiau, efallai y bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar y defnydd o raean. Bryd hynny, gallwn gymysgu’r graean yn y biniau â chreighalen neu dywod graean, neu hyd yn oed ddefnyddio halen gwyn gyda thywod graean. Mae hynny’n ein helpu i ddiogelu cyflenwadau graean, ond gall hefyd helpu i wneud wyneb y ffordd neu’r palmant yn llai llithrig – yn enwedig os iâ neu eira wedi’i wasgu’n dynn sydd arno.