Graeanu a chlirio eira
Mae tymor gwasanaeth gaeaf yr adran briffyrdd yn rhedeg o ganol mis Hydref i ganol mis Ebrill bob blwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth effeithlon dros y gaeaf ac yn ceisio sicrhau bod y ffyrdd sy’n cael y flaenoriaeth fwyaf yn ddiogel ac yn rhydd o iâ ac eira, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol bosibl.