Rhoi gwybod am broblemau gyda ffensys, atalfeydd a chelfi eraill ar strydoedd

Rhoi gwybod am broblemau gyda ffensys, atalfeydd a chelfi eraill ar strydoedd

Mae eitemau o’r fath yn cynnwys y canlynol:

  • Y rhan fwyaf o arwyddion a bolardiau sydd wedi’u goleuo neu sydd heb eu goleuo
  • Signalau traffig ac arwyddion amrywiol sy’n rhoi negeseuon
  • Ffensys ar y briffordd
  • Rhwystrau diogelwch
  • Waliau (nad ydynt yn eiddo preifat)
  • Atalfeydd
  • Biniau sbwriel
  • Meinciau
  • Llochesau bysiau 

Gallant hefyd gynnwys eitemau addurnol megis goleuadau stryd addurnol, basgedi crog a chafnau â phlanhigion ynddynt.

I roi gwybod am broblem gyda ffens neu rwystr diogelwch ar briffordd gyhoeddus ym mwrdeistref sirol Caerffili, llenwch y ffurflen ganlynol.

Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.