Ymylon ffyrdd a thorri glaswellt

Fel yr awdurdod priffyrdd, rydyn ni'n gyfrifol am ordyfiant yn dod o ymyl y briffordd, gan gynnwys coed, gwrychoedd, torri gwair a chwyn.

Gall gordyfiant llystyfiant greu perygl diogelwch i ddefnyddwyr priffyrdd drwy:

  • rwystro’r gallu i weld wrth gyffyrdd
  • orfodi defnyddwyr y briffordd, yn enwedig marchogion ceffylau, beicwyr a cherddwyr, i'r ffordd
  • effeithio ar ddraenio dŵr wyneb, gan achosi llifogydd lleol.

Cynhelir torri glaswellt ar ein hymylon ddwywaith y flwyddyn, yn ystod mis Mai a mis Awst.

Os ydych chi'n ymwybodol o ymyl y ffordd sy'n achosi problem diogelwch, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod.

Os ydych chi wedi cyflwyno cais yn ddiweddar, a hoffech chi ei drafod ymhellach, e-bostiwch RhPC@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866511 gan ddyfynnu cyfeirnod eich ffurflen.

Os ydych chi'n ymwybodol o ymyl y ffordd sy'n achosi problem diogelwch, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod.

Twf i'r briffordd o eiddo preifat

O dan y Ddeddf Priffyrdd (1980 ac fel y'i diwygiwyd) rydych chi'n gyfrifol am gynnal coed, gwrychoedd a llwyni o fewn eich eiddo eich hun sy'n ffinio ar y briffordd gyhoeddus. Ewch i'n hadran llystyfiant sy'n hongian uwchben y briffordd am fanylion.