Cynlluniau teithio ysgol

Mae Cynllun Teithio Ysgol yn ddogfen ysgrifenedig sy'n amlinellu cyfres o gamau ymarferol ar gyfer gwella diogelwch plant ar y daith i'r ysgol ac oddi yno. Ei nod yw annog ysgolion i adnabod a datrys problemau sy'n gysylltiedig â thaith yr ysgol, e.e. parthau 20mya, storio beiciau ac ati

Mae'r Cynllun Teithio Ysgol hefyd yn annog dulliau cynaliadwy o drafnidiaeth sy'n helpu i leihau tagfeydd, llygredd ac yn y pen draw yn gwella'r amgylchedd o gwmpas yr ysgol a'r gymuned leol.

Cynhyrchir y cynlluniau gan yr ysgolion eu hunain ac nid ydynt o reidrwydd yn cynnwys gwaith corfforol ond yn hytrach maent yn ffordd o fyw a dysgu.

Am ragor o wybodaeth,  cysylltwch â'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

I gael manylion am brosiectau a gwasanaethau allweddol eraill,  ewch i’n hadran rhaglen diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer plant a phobl ifanc.

Cysylltwch â ni