Datblygiadau Rhaglenni, Cynigion ac Ymgynghoriadau Ysgolion yr 21ain Ganrif
Rhaglen Band B 2019 i 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cychwyn ar daith gyffrous ond heriol o wella a newid. Mae'r prosiectau'n cynnwys adeiladu ysgolion newydd, uno, adnewyddu ysgolion ac ehangu safleoedd ar draws y fwrdeistref sirol gyfan.
Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond cynigion ydynt ar hyn o bryd a bydd yr ymgynghoriad â phob rhanddeiliad allweddol yn rhan hanfodol o'r broses, wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Ymgyngoriad
Mae ymgynghoriadau cyhoeddus yn rhan allweddol o'r broses statudol lle rydym ni fel awdurdod yn sicrhau y caiff pawb gyfle i fynegi eu barn ar gynigion penodol.
Every opportunity is provided for people to have their say; views and opinions received are taken into consideration Cynigir pob cyfle i bobl ddweud eu dweud am y cynigion ac ystyrir y safbwyntiau a dderbynnir yn yr adroddiadau i Weithrediaeth y Cyngor, a fydd yn gwneud penderfyniadau'n seiliedig arnynt.
Barn iant a phobl infanc
Mae gan bobl ifanc hawl i fynegi eu barn ar bob mater sy'n effeithio arnynt a dylid sicrhau bod pwys priodol yn cael ei roi ar eu barn yn unol â'u hoedran a'u haeddfedrwydd. Mae'r Cyngor yn cydnabod y gallai pobl ifanc wella'r broses o wneud penderfyniadau yn ogystal â rhannu safbwyntiau a chymryd rhan fel dinasyddion a hwyluswyr newid.
Mae'r Cyngor wedi cydnabod bod rhoi llais i bobl ifanc yn golygu eu cynnwys fel cyfranogwyr yn y broses o ddatblygu, cyflawni, rheoli a gwella eu profiadau addysgol ac fel myfyrwyr a bod angen iddynt fod wrth wraidd y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso.
Bydd Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghaerffili yn sicrhau y caiff trefniadau addas eu gwneud i ymgynghori â phobl ifanc a'u cynnwys yn y broses, yn ogystal ag ar ôl i'r gwaith ddod i ben, wrth gyflwyno unrhyw gynnig.