Ymgynghoriad Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Cwestiynau Cyffredin

Mae gan y Cyngor a'r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy hanes o gyflawni prosiectau arloesol a thrawsnewidiol yn rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Mae’r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi coladu rhestr o ymholiadau posibl ynghylch datblygu cynigion ac ymgynghori arnyn nhw ar ffurf y ‘Cwestiynau Cyffredin’ isod, yn seiliedig ar brofiadau blaenorol. 

Y Cyrff Prosesu a Phenderfynu

Beth yw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy?

Mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol, fawr, hirdymor, sy'n ceisio creu cenhedlaeth o ysgolion sy'n addas i'r 21ain ganrif yng Nghymru.

A oes proses gyfreithiol sy'n rhaid ei dilyn?

Mae’n rhaid i’r Cyngor ddilyn y canllawiau statudol sydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, fel sy'n cael ei nodi yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018, oni bai bod cynnig wedi’i eithrio.

Lle bo eithriad yn berthnasol, bydd hyn yn cael ei ddatgan yn glir yn y Dogfennau Ymgynghori.

Lle bo eithriad yn berthnasol, bydd y Cyngor yn ymgynghori gan ddefnyddio ei fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu ei hun i ategu'r broses gwneud penderfyniadau.

A yw'r broses hon yn amrywio o ysgol i ysgol?

Yn seiliedig ar natur y cynnig, gall y broses sy'n cael ei dilyn amrywio yn dibynnu a yw’r Canllawiau Statudol o dan God Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn berthnasol.

Beth yw swyddogaethau gwahanol y Pwyllgorau Craffu a'r Cabinet yn rhan o'r broses hon?

Pan fyddwn ni'n cyflwyno cynnig, mae ein Pwyllgor Craffu Addysg yn adolygu ac yn cymeradwyo argymhellion i ddechrau cyn i gynnig gael ei ddwyn gerbron y Cabinet i ystyried a ddylid ei ddatblygu ymhellach. Mae hyn yn cael ei wneud ar sawl cam, o’r llunio cychwynnol, i gymeradwyo cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru, i gael caniatâd i ymgynghori ac i adrodd yn ôl ar ganfyddiadau’r broses ymgynghori gyda’r bwriad o gael cymeradwyaeth derfynol i symud ymlaen i’r cam gwneud cais cynllunio.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn rhan o’r broses?

Rhaid i unrhyw gynnig gael cymeradwyaeth y Gweinidog yn ystod y cam gwneud achos busnes amlinellol cyn unrhyw ymarferion ymgynghori.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddau banel sy'n cyfarfod bob yn ail fis.

Grŵp Craffu Achosion Busnes

Panel Buddsoddi Achosion Busnes

Mae cylch gwaith pob panel ychydig yn wahanol, ond mae'n cynnwys ystyriaeth gadarn o'r Achosion Strategol, Ariannol, Economaidd, Masnachol a Rheoli ar gyfer buddsoddi.

Hyd nes y bydd y paneli hyn yn fodlon ar gynnig, ni all symud ymlaen i'r cam nesaf.

Unwaith y bydd y broses ymgynghori ac ymgysylltu wedi'i chwblhau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet a Chynllunio, caiff Achos Busnes Llawn ei gyflwyno wedyn i'w graffu a'i adolygu ymhellach. Unwaith eto, mae angen i'r ddau banel Llywodraeth Cymru gymeradwyo hwn, i ddangos bod y Cyngor yn dilyn arfer da, yn darparu gwerth am arian ac yn cyflawni ei addewidion.

A yw’r penderfyniad terfynol ar y cynnig eisoes wedi’i wneud?

Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar unrhyw gynnig hyd nes y bydd wedi mynd heibio proses ymgynghori a'r broses cais cynllunio.

Fel sy'n cael ei amlinellu uchod, mae cynigion yn seiliedig ar y ffordd ymlaen a ffefrir, fel sydd wedi'i nodi mewn arfarniad o opsiynau. Mae camau amrywiol y broses gwneud penderfyniadau a'r adborth gan randdeiliaid yn helpu i lunio cynigion a'r dulliau arloesol o'u cyflawni.

Y Cynnig

Beth sy'n cael ei gynnig?

Drwy’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, mae’r Cyngor yn gwneud buddsoddiadau cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol i wella adeiladau ein hysgolion.

Mae cynigion yn cael eu hamlinellu'n llawn yn y Dogfennau Ymgynghori a gafodd eu cynhyrchu ar gyfer y cynnig penodol hwnnw.

Ble gallaf ddod o hyd i'r holl ddogfennaeth?

Mae dogfennaeth pob cynnig ar y dudalen Datblygiadau Rhaglenni, Cynigion ac Ymgynghoriadau.

Mae'n bosibl hefyd darparu gwybodaeth mewn fformatau eraill, ieithoedd eraill ac ar ffurf copi caled ar gais. Cysylltwch â ni ar 01443 864817 neu anfon e-bost i YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk i drefnu hyn.

Sut wnaethoch chi lunio'r cynigion?

Mae nifer o ffactorau'n cael eu hystyried wrth lunio cynnig a blaenoriaethu prosiectau i'w datblygu. Mae’r rhain yn amrywio o ystyried niferoedd presennol y disgyblion, lleoedd gwag, rhagamcanion ar gyfer y dyfodol, cyflwr yr adeiladau, anghenion o ran y cwricwlwm a mentrau Llywodraeth Cymru.  Mae'n bwysig edrych ar ddull cyffredinol o wella'r ystâd addysgol, sy'n cynnwys edrych i weld a yw llwybrau ariannu eraill yn fwy addas, megis y Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf.

Mae Bwrdd Strategaeth Ysgolion yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod cynigion, cyn eu dwyn nhw gerbron y Pwyllgor Craffu Addysg a'r Cabinet i'w cymeradwyo i symud ymlaen.

Sut wnaethoch chi feddwl am yr opsiynau yn y lle cyntaf?

Mae'r Cyngor yn defnyddio dull Fframwaith Opsiynau, fel sydd wedi'i ragnodi gan Lywodraeth Cymru, i nodi'r ffyrdd y gall y Cyngor gyflawni ei amcanion mewn perthynas â gwella ysgolion. Mae'r broses hon yn ystyried y nifer mwyaf posibl o opsiynau ymarferol, gan ganolbwyntio ar yr elfennau allweddol a ganlyn: cwmpas, datrysiad gwasanaeth, darparu gwasanaeth, gweithredu a chyllid.

Yna, caiff gweithgor trawsadrannol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, y Gyfadran Addysg, Chwaraeon a Hamdden, Gwasanaethau Cynhwysiant, Gwasanaethau Eiddo, Cyllid ac Iechyd a Diogelwch, ei sefydlu i:

Baratoi a gwerthuso rhestr hir o opsiynau

Gwerthuso a sgorio pob opsiwn o ran i ba raddau mae pob opsiwn yn bodloni'r amcanion buddsoddi a'r ffactorau llwyddiant hanfodol sydd wedi'u nodi a'u hystyried fel meysydd blaenoriaeth gan y Cyngor.

Diystyru opsiynau, neu eu cario ymlaen i'w hystyried ymhellach ar y rhestr fer, yn seiliedig ar y dadansoddiad a'r sgorio rhagarweiniol i nodi opsiynau ymarferol.

Argymell ffordd ymlaen a ffefrir, a fydd yn sail i'r ymarfer ymgynghori

Yna, y ffordd ymlaen a ffefrir sydd wedi'i hargymell fydd sail y cynnig y byddwn ni'n ei gyflwyno fel achos busnes amlinellol i Lywodraeth Cymru ac y byddwn ni'n cynnal yr ymarferion ymgynghori yn ei erbyn.

Pwy sy'n talu amdano?

Mae'r holl gynigion Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn cael eu hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor.

Mae cyllid eisoes wedi'i neilltuo ar gyfer cyfran y Cyngor o gostau cyfalaf y prosiect.

Yn dibynnu ar natur y cynnig, gall y gyfradd ymyrraeth newid. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor weithiau'n talu 35% o'r costau ac weithiau  yn talu 25%, gyda Llywodraeth Cymru yn talu'r gweddill. 

Mae manylion llawn yr hyn sy'n cael ei alw yn gyfradd ymyrraeth ar gael yn y Dogfennau Ymgynghori sy'n benodol i bob cynnig.

Ymgynghori ac Ymgysylltu

Gyda phwy ydych chi'n ymgynghori a pham?

Mae deddfwriaeth statudol trwy God Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn rhagnodi rhestr o ymgyngoreion mae’n rhaid eu hysbysu o’r cynnig.  Mae’r rhain yn cynnwys disgyblion, rhieni, staff, Gweinidogion Cymru, Estyn a Chynghorwyr lleol (mae’r rhestr lawn ar gael yn y Ddogfen Ymgynghori).

Lle nad yw’r cod yn berthnasol, er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau tryloyw, cytbwys ac agored, mae’r Cyngor yn adlewyrchu’r broses gyfatebol sy'n cael ei hamlinellu yn Adran 3 o’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy’n cyd-fynd â’r ‘Sbectrwm Ymgysylltu’ priodol sy'n cael ei amlinellu yn Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu'r Cyngor ar gyfer 2020-2025.

Sut y byddaf yn gwybod bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal?

Os ydych chi'n un o’r ymgyngoreion sy'n cael eu rhestru, byddwn ni'n cysylltu â chi drwy lythyr neu e-bost i’ch hysbysu chi bod y cynnig yn fyw.

Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a gweithio'n agos gyda'r ysgolion perthnasol.

A oes modd i unrhyw un anfon ymateb a sut bydd ymatebion yn cael eu cofnodi?

Gall pawb anfon ymateb a bydd hwn yn cael ei gofnodi gan ddefnyddio system fonitro ac olrhain fewnol.

Pwy fydd yn gweld fy ymatebion i'r ymgynghoriad?

Bydd yr holl ymatebion sy'n dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori yn cael eu cofnodi a'u crynhoi mewn Adroddiad Ymgynghori/Ymgysylltu â'r Gymuned.

Bydd aelodau'r Cabinet yn cael copïau o'r holl ymatebion sydd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori fel rhan o'r broses gwneud penderfyniadau, a hynny yn eu fformatau gwreiddiol.

Sut mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal a phryd?

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau i ategu’r ymgynghoriad ar y cynnig, sy’n cynnwys Dogfen Ymgynghori, Asesiad Effaith Integredig a dolenni i ddarparu eich ymatebion chi trwy ffurflen ar-lein, e-bost neu'r post.

Hyd y cyfnod ymgynghori safonol yw 42 diwrnod, fel sydd wedi'i ragnodi gan God Trefniadaeth Ysgolion 2018.  Weithiau, rydyn ni'n cael cynigion nad ydyn nhw'n ddarostyngedig i ofynion statudol y Cod, ond rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad yn lleol i adlewyrchu Cam 1 ar gyfer ein holl gynigion, sy’n golygu y byddwn ni'n ceisio barn ymgyngoreion ar gyfer pob cynnig y byddwn ni'n ei symud ymlaen i alluogi gwneud penderfyniadau agored a thryloyw.

Pan fyddwn ni'n agor ymgynghoriad, rydyn ni'n rhoi cyhoeddusrwydd iddo trwy hysbysu’r ymgyngoreion, fel sy'n cael ei restru yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018. Yn ogystal, rydyn ni'n darparu gwybodaeth i’r ysgolion lleol ac yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Mae ein dyddiadau ymgynghori wedi'u hamlinellu'n glir yn ein Dogfennau Ymgynghori ac rydyn ni'n nodi'n glir sut mae modd dychwelyd sylwadau.

Sut fyddwch chi’n gwneud yn siŵr bod disgyblion yn gwybod beth sy’n digwydd ac yn cymryd rhan?

Mae barn plant yn rhan bwysig o'r broses. Bydd y Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yng Nghaerffili yn sicrhau, wrth gyflwyno unrhyw gynnig, bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i ymgynghori â disgyblion a’u cynnwys nhw drwy gydol y broses ac ar ôl deiliadaeth.

Bydd fersiwn addas i blant o'r Ddogfen Ymgynghori yn cael ei chynhyrchu a bydd unrhyw adborth gan ddisgyblion a'r Cyngor Ysgol yn cael ei gynnwys yn y ddogfennaeth, sy'n cael ei anfon i'r Cabinet i'w hystyried unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben?

Bydd yr Adroddiad Ymgynghori/Ymgysylltu â'r Gymuned yn cael ei gyflwyno ar gyfer adolygiad cychwynnol ac i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu Addysg, gyda'r Cabinet i roi cymeradwyaeth derfynol.

Ar y cam hwn, gall aelodau’r Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r cynnig, gwneud newidiadau i’r cynnig neu beidio â bwrw ymlaen â’r cynnig.

Bydd yr Adroddiad Ymgynghori/Ymgysylltu â’r Gymuned yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a bydd ymgyngoreion yn cael eu hysbysu o’r cyhoeddiad trwy lythyr/e-bost, fel sy'n cael ei ragnodi gan God Trefniadaeth Ysgolion 2018.

Adeiladu a Datblygu

A oes angen cais cynllunio i adeiladu fel y cynigir?

Bydd Proses Ceisiadau Cynllunio ar wahân yn cael ei chynnal gan Adran Gwasanaethau Eiddo’r Awdurdod yn amodol ar wneud y penderfyniad terfynol ac yn amodol ar y Cabinet yn cymeradwyo symud y cynnig hwn yn ei flaen. Bydd manylion yr holl geisiadau i’w gweld ar wefan y Cyngor pan fydd y broses yn fyw.

Pryd fyddai adeiladu yn dechrau ar y safle?

Bydd hyn yn amodol ar gymeradwyaeth cais cynllunio llawn.

A fydd masnachwyr ac adnoddau lleol yn cael eu defnyddio i adeiladu'r ysgol newydd?

Mae prosiectau'n cynnwys buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol fel gofynion craidd, ac maen nhw'n cael eu sgorio yn rhan o'r gwerthusiad ansawdd. Mae'n gosod nifer o dargedau ynghylch recriwtio a hyfforddiant lleol wedi'u targedu, cadwyni cyflenwi, mentrau cymunedol ac addysg a materion amgylcheddol, megis lleihau gwastraff a lleihau'r defnydd o ynni.

Yn ystod y gwaith adeiladu, sut fydd y safle'n cael ei gadw'n ddiogel?

Cyfrifoldeb y contractwr y dyfernir y gwaith iddynt fydd diogelwch y safle.  Bydd Asesiadau Risg priodol yn cael eu cynnal a'u monitro gan yr Awdurdod.

Beth fydd yr effaith ar draffig, meysydd parcio, tagfeydd a diogelwch?

Bwriad y Cyngor bob amser yw darparu system drafnidiaeth sy'n ceisio sicrhau bod disgyblion yn gallu cael mynediad diogel ac esmwyth i'w haddysg. Bydd nifer o ddulliau ‘Teithio Diogel’, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, yn cynnwys goleuadau a llwybrau troed dynodedig.

Beth fydd yr effaith ar yr amgylchedd?

Mae gwarchod cynefinoedd, bioamrywiaeth a lleihau llygredd yn arferol drwy gydol cyfnod y contract a bydd arolygon perthnasol yn cael eu cynnal a’u cynnwys yn y dogfennau caffael.

A fydd yr ysgol yn ecogyfeillgar?

Mae datgarboneiddio yn uchel ar agenda'r Cyngor ac yn rhan annatod o gynllunio a datblygu pob cynnig.

Un o’r ffactorau llwyddiant hanfodol ar gyfer cynnig yw sicrhau ‘amgylchedd carbon isel, ynni isel ac sy'n ecogyfeillgar’.

Beth fydd yn digwydd i unrhyw adeiladau na fydd yn cael eu defnyddio mwyach?

Bydd unrhyw adeilad nad oes ei angen bellach yn cael ei waredu yn unol â'r canllawiau perthnasol. Gall hyn fod trwy ddymchwel, ailddefnyddio neu werthu. Bydd unrhyw arian sy'n cael ei gynhyrchu drwy'r broses hon yn cael ei ail-fuddsoddi yn y rhaglen.

A fydd y diwrnod ysgol arferol yn cael ei amharu yn ystod yr adeiladu?

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r contractwr i sicrhau y byddai cyn lleied o amharu â phosibl ar weithrediadau dyddiol unigolion presennol yr ysgol hyd nes y bydd y safle'n barod i'w lenwi. Bryd hynny, byddai dysgwyr yn cael eu cynorthwyo trwy unrhyw broses drawsblannu.

Bydd asesiadau risg llawn yn cael eu cynnal.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i adeiladu?

Mae amserlenni prosiect ar gyfer y cyfnod adeiladu yn amrywio yn dibynnu ar natur y cynllun. Bydd manylion llawn ar gael yn y dogfennau cynllunio.

Bywyd Ysgol

Pryd fydd yr ysgol newydd yn agor?

Bydd y dyddiad cwblhau disgwyliedig yn amrywio yn dibynnu ar y cynnig.

Mae manylion llawn ar gael yn y dogfennau ymgynghori sy'n berthnasol i bob cynnig unigol.

Beth fydd enw'r ysgol?

Bydd hyn yn amodol ar benderfyniad corff llywodraethu'r ysgol.

A fydd y wisg ysgol yn newid?

Bydd hyn yn amodol ar benderfyniad corff llywodraethu'r ysgol.

Beth fydd yr effaith ar ddisgyblion a staff yr ysgol(ion) presennol?

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r partïon perthnasol i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o effaith ar ddarparu addysg a rhedeg yr ysgol o ddydd i ddydd.

A fydd amseroedd dechrau a gorffen yr ysgol yn aros yr un fath?

Byddai hyn yn ôl disgresiwn y Pennaeth.

A fydd y Corff Llywodraethu yn newid?

Yn dibynnu ar natur y cynnig, byddai newidiadau’n cael eu cynllunio’n ofalus fel bod cyn lleied â phosibl o amharu ar arweinyddiaeth a llywodraethu ysgolion, er mwyn lleihau unrhyw effaith negyddol ar ddeilliannau addysgol.

A fydd angen i mi wneud cais i'm plentyn fynychu'r ysgol newydd?

Lle mae disgyblion eisoes yn mynychu, nid oes angen ailymgeisio, hyd yn oed pan mae uno wedi'i gynllunio. Byddan nhw'n cael eu cofrestru'n awtomatig yn yr ysgol newydd.

A fydd y trefniadau dalgylch a derbyn presennol ar gyfer yr ysgol yn aros yr un fath?

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys ym mhob dogfen ymgynghori unigol.

Bydd nifer y disgyblion dalgylch y gellir eu derbyn yn cael ei reoli i sicrhau nad yw ysgolion eraill yn yr ardal yn cael eu heffeithio'n andwyol.

A fydd y trefniadau teithio ar gyfer disgyblion sy'n mynd i'r ysgol yn newid?

 
Bydd yr Awdurdod yn cadw at ei Bolisi Teithio Llesol wrth ddarparu cludiant i bob ysgol unigol yn ôl yr angen.

Pa gyfleusterau a chyfarpar fydd yn yr ysgol newydd?

Bydd gan bob cynnig gyfleusterau sy’n darparu amgylchedd addysgu a dysgu ysgogol, ac mae rhai enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys:

  • Prif ystafelloedd dosbarth amlswyddogaethol sy'n cydymffurfio â maint
  • Prif neuadd gynnull
  • Man technoleg bwyd
  • Llyfrgell a man TG
  • Man dysgu y tu allan
Fodd bynnag, yn dibynnu ar natur y cynnig gall hyn amrywio.

A fydd y gymuned yn gallu defnyddio cyfleusterau unrhyw ysgol?

Ein dyhead, sy'n rhagofyniad ar gyfer buddsoddiad Llywodraeth Cymru, yw ymrwymo i sicrhau bod asedau ar gael i ategu angen addysgol, defnydd cymunedol, hyrwyddo cydnerthedd cymunedol a chyfrannu at gyflawni sawl Strategaeth Awdurdod Lleol.

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r seilwaith a’r adnoddau newydd, fel rhan o’r cynnig, bydd hyblygrwydd yn cael ei roi ar waith yn yr ysgol sy’n addas ar gyfer y galw lleol. 

Bydd y defnydd o gyfleusterau chwaraeon hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer y gymuned ar adegau addas, yn unol ag amserlen y cwricwlwm.

A fydd ffi i ddefnyddio cyfleusterau’r ysgol?

Bydd hyn yn dibynnu ar y math o ddarpariaeth sydd ar gael.

Mae'r Cwestiynau Cyffredin wedi'u cynllunio i fod yn gyffredinol ac maen nhw'n rhoi trosolwg cryno. Rydyn ni'n eich cynghori chi i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin ar y cyd â'r prif ddogfennau ymgynghori ar gyfer pob cynnig unigol.