Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Tanysgrifio
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi a hyfforddiant
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Canolfannau Hamdden
    • Taliadau Cymorth i Ofalwyr Di-dâl
    • Cynllun Cymorth Costau Byw
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Etholiadau Lleol 2022
    • Councillors and committees
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Covid-19
A allaf helpu?
Argyfwng Wcráin : Mae'r manylion am sut i gynnig cymorth, a ble i gael gwybodaeth a chyngor, ar gael ar ein tudalen we Cymorth i Wcráin.
  • Preswylydd    Ysgolion a dysgu    Anghenion dysgu ychwanegol    Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Trawsnewid System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 

Cod ADY  

Pasiwyd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Rhagfyr 2017 a daeth yn Ddeddf ar 24 Ionawr 2018 ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol.  Bydd hyn yn creu'r fframwaith deddfwriaethol i wella cynllunio a darpariaeth ddysgu ychwanegol, drwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn nodi anghenion yn gynnar, rhoi cymorth effeithiol ar waith a monitro ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir. 

Cefnogir y Ddeddf gan:  

  • rheoliadau - deddfwriaeth eilaidd pan fo angen rhagor o fanylion
  • Cod ADY - canllawiau statudol a gofynion gorfodol i helpu pobl a sefydliadau i weithio o fewn y gyfraith.

Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol, lleoliadau blynyddoedd cynnar, ysgolion a darparwyr addysg bellach i benderfynu a oes gan blant a phobl ifanc 0-25 oed anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY).

Os yw ysgol neu leoliad yn penderfynu bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), rhaid paratoi Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc hwnnw.  

Pan nodir anghenion sy'n dod i'r amlwg, yn arbennig mewn plant ifanc iawn, nid yw hyn o reidrwydd yn gofyn am nodi angen dysgu ychwanegol ond efallai y bydd angen ymyrraeth gynnar arnynt.

  • Rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru: Sut a pham rydyn ni'n creu un system i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol
  • Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2020 - 2022
  • Canllaw i blant (PDF)
  • Hwb Cymru

Apelio

Os nad ydych yn hapus â phenderfyniad a wnaed ynghylch ADY neu CDU gan ysgol, gallwch chi ofyn i ni adolygu neu ailystyried y penderfyniad.

Mae gan bob plentyn, eu rhieni neu ofalyddion a phobl ifanc hyd at 25 oed yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Addysg yn erbyn penderfyniadau a wneir gan awdurdod lleol neu sefydliad addysg bellach mewn perthynas â'u ADY neu eu CDU.

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 
Adeiladau'r Llywodraeth 
Spa Road East 
Llandrindod 
Powys 
LD1 5HA 
Llinell gymorth: 0300 025 9800 
Ffacs: 0300 025 9801
Ebost: tribunal.enquiries@llyw.cymru
Gwefan: https://tribiwnlysanghenionaddysgolarbennig.llyw.cymru

  • Taflen Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (PDF)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Statudol Dysgu, Addysg a Chynhwysiant.

Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2022, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl