Hebrwng plant sy’n gweithio ym myd adloniant

Mae hebryngwyr plant wedi’u trwyddedu gan yr awdurdod lleol i ofalu am blant sy’n gweithio ym myd adloniant. Maent yn sicrhau nad yw’r plentyn yn gweithio gormod o oriau heb gael egwyl iawn. Caiff plant addysg dan rai amgylchiadau, a sicrheir lles y plentyn a’i fod yn ddiogel ac yn gyfforddus ar bob amser.

Pryd y mae angen hebryngwr?

Rhaid i blant oedran ysgol, hyd at a gan gynnwys Blwyddyn 11, sy’n cymryd rhan mewn perfformiad cyhoeddus neu’n ymarfer ato, fod yng nghwmni hebryngwr cofrestredig, os na all rhieni neu ofalwr fod yng nghwmni’r plentyn.

Bydd y perfformiadau hyn yn cynnwys unrhyw waith teledu, theatr, ffilmio neu berfformiad amatur, yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon neu fodelu.

Bydd angen i blant sy’n rhan o unrhyw berfformiad, p’un ai mewn pantomeim neuadd bentref neu berfformiad a ddarlledwyd am gyfnod, bob amser fod yng nghwmni hebryngwr cofrestredig. Yn yr un modd, os yw’r perfformiad yn para mwy na thridiau, bydd angen trwydded perfformio i blant ar y plentyn.

Sut i gofrestru i fod yn hebryngwr

I gofrestru i fod yn hebryngwr, bydd angen i chi wneud cais i’r awdurdod lleol rydych yn byw ynddo. Bydd angen uwch wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu ac Atal a bydd angen i chi ddilyn hyfforddiant ‘Diogelu Plant a Hebryngwyr’.

Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?

Mae angen i chi bellach wneud apwyntiad â’r Swyddog Cyflogaeth Plant i drefnu cyfweliad i drafod eich cais. Ffoniwch 01443 866689.

Deddfwriaeth

Deddf Plant A Phobl Ifanc 1963, A.37 

Rheoliadau Plant (perfformiadau A Gweithgareddau) (Cymru) 2015

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 a 1963

Rheoliadau (Perfformiadau) Plant 1968

Rheoliadau Plant (Perfformio) (Diwygiadau Amrywiol) 1998(1)

Rheoliadau Plant (Perfformio) (Diwygiad) (Rhif 2) 2000

Cysylltwch â ni