Grŵp Antur Caerffili

Mae Grŵp Antur Caerffili yn darparu cyfleoedd gweithgareddau awyr agored i bobl o bob oedran a gallu.

Mae Grŵp Antur Caerffili yn cynnwys tîm o wirfoddolwyr sy'n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaeth Addysg Awyr Agored Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sef Anturiaethau Caerffili.

Mae holl weithgareddau swyddogol Grŵp Antur Caerffili yn dod o dan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur drwy Anturiaethau Caerffili. Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y Cyngor hefyd yn cynnwys digwyddiadau o’r fath.

Mae hyn yn galluogi Grŵp Antur Caerffili i ddarparu gweithgareddau anturus i blant a phobl ifanc o dan 18 oed o fewn cwmpas y drwydded. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • Campau dŵr
  • Ymdeithio
  • Dringo dan do 

Mae gweithgareddau gan y grŵp i oedolion yn cynnwys:

  • Caiacio, canŵio a rhwyf-fyrddio ar eich traed
  • Mynydda a cherdded bryniau
  • Gwersylla ac alldaith
  • Byw yn y gwyllt
  • Cerdded ceunentydd a cherdded antur)
  • Beicio 

Mae gan nifer o'n harweinwyr gwirfoddol Wobrau Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, er enghraifft, Gwobr Arweinydd Mynydd, Gwobr Wal Ddringo, Arweinydd Beicio Mynydd, Hyfforddwr Chwaraeon Padlo ac hyfforddiant cymorth cyntaf.

Ein hethos yw buddsoddi mewn gwirfoddolwyr trwy sicrhau cyllid i ddatblygu eu sgiliau a'u cymwysterau er mwyn iddyn nhw drefnu ac arwain gweithgareddau ar gyfer Grŵp Antur Caerffili.

Clybiau caiac

Mae sesiynau caiacio wythnosol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Heolddu ar ddydd Llun rhwng 6pm a 7pm (oedolion a phlant), a nos Sul yn Nhrecelyn rhwng 5pm a 6pm. Mae sesiynau'n costio £6 a bydd gofyn i chi dalu £24 yn fisol ymlaen llaw ar ddiwrnod cyntaf pob mis.

Mae 2 sesiwn blasu ar gael am £6 y sesiwn cyn ymrwymo i gofrestru'n fisol.

Mae aelodaeth Canŵ Cymru yn orfodol ar ôl cwblhau 2 sesiwn flasu.

Dylai cyfranogwyr fod yn 8 oed neu'n hŷn ac yn destun asesiad yn y dŵr cyn ymuno. Rydyn ni'n gofyn i gyfranogwyr wisgo crys t dros ddillad nofio ar gyfer y sesiynau. Bydd yr holl offer yn cael eu darparu.

Cyfarfodydd misol

Mae Grŵp Antur Caerffili yn cwrdd bob dau fis am 7pm yng Nghanolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7FN

Byddwn ni'n cadarnhau dyddiadau trwy e-bost i aelodau.

Mae'r cyfarfod misol yn rhoi cyfle i ddal i fyny a chynllunio digwyddiadau yn y dyfodol. Mae croeso i aelodau newydd, gan ei fod yn gyfle da i gwrdd ag eraill a chael gwybod beth sy'n digwydd. Mae siaradwyr gwadd ac aelodau yn cyflwyno cyflwyniadau byr am weithgareddau neu deithiau maen nhw wedi eu cynnal.

Gweithgareddau eraill

Mae gennym ni grŵp cerdded sy'n cerdded yn aml drwy gydol y mis. Byddwn ni'n anfon manylion pob digwyddiad cerdded drwy e-bost ymlaen llaw, a bydd gofyn i aelodau gadw lle gydag arweinydd y daith gerdded.

Mae digwyddiadau eraill yn cael eu hysbysebu trwy e-bost, mewn cyfarfodydd a thrwy'r ddolen isod Grŵp Antur Caerffili.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i ni ar Facebook, Instagram a Twitter.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag Ali Rees Evans (Ysgrifennydd) GrŵpAnturCaerffili@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni