Gwobr Dug Caeredin

Os ydych yn 14-25 oed ac yn barod am antur go iawn, yna beth am gofrestru yn y Wobr Dug Caeredin.

Mae'r rhaglen ar gael ar dair lefel: Efydd, Arian ac Aur, sydd i gyd yn arwain at Wobr Dug Caeredin. 

Wrth weithio tuag at eich gwobr, byddwch yn datblygu sgiliau newydd, gwella eich iechyd a ffitrwydd, helpu pobl a'r gymuned leol, a mynd ar daith.  Mae'r wobr Aur hefyd yn golygu y byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgaredd preswyl.  Y peth gorau yw, byddwch yn dewis pa weithgareddau yr ydych am gymryd rhan ynddynt.

Mae cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin yn daith wych a fydd yn eich galluogi i ddatblygu fel person, gwneud ffrindiau newydd a chael profiadau a fydd yn aros gyda chi am weddill eich bywyd.

I gychwyn

Mae Cyngor Caerffili yn sefydliad trwyddedig Dug Caeredin.  Os oes gennych ddiddordeb mewn cofrestru bydd angen i chi gysylltu â ni. Bydd angen i chi hefyd lenwi ffurflen gofrestru a thalu ffi cyfranogiad bychan Gwobr Dug Caeredin. Yna byddwch yn derbyn pecyn croeso gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol a'ch Cerdyn Gwobrwyo Dug Caeredin. 

Dychwelwch ffurflenni wedi'u cwblhau at Wasanaeth Addysg Awyr Agored Caerffili.

Cysylltwch â ni