Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Ysgolion a dysgu    Cau ysgolion/ystafelloedd dosbarth oherwydd achosion positif o COVID-19

Cau ysgolion/ystafelloedd dosbarth oherwydd achosion positif o COVID-19

Mae'r newyddion bod nifer o ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael achos/achosion positif o COVID-19 yn bryder i bawb.

(Diwygiwyd y dudalen ddydd 15 Rhagfyr Tachwedd 2020, 4pm)

Ysgol

Nifer yr ystafelloedd dosbarth llawn ar gau

Ysgol Gynradd Plasyfelin

2

Ysgol Gymraeg Bro Allta

1

Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili

1

Ysgol Ifor Bach

1

Mae gan ysgolion gynlluniau Iechyd a Diogelwch trylwyr ar waith lle sy'n caniatáu iddyn nhw weithredu'n gyflym pan fyddan nhw’n cael gwybod am achos yn cael ei gadarnhau. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a phartneriaid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio'n agos gydag ysgolion i sicrhau bod mesurau diogelwch priodol ar wait her mwyn cyfyngu ar unrhyw groeshalogi a rhannu'r canllawiau a'r wybodaeth fwyaf diweddar.  

Cwestiynau ac atebion

Bydd gan lawer ohonoch gwestiynau ac ymholiadau sy'n ymwneud â'ch amgylchiadau personol ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn darparu'r wybodaeth ffeithiol angenrheidiol i chi ac yn ceisio eich helpu hyd eithaf ein gallu.

Pwy sy'n gorfod hunanynysu?

Mae canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn a dim ond disgyblion y mae'r ysgol wedi cysylltu â nhw sydd â'r achos positif sydd angen ynysu.

Beth fydd yn digwydd os oedd fy mhlentyn i ffwrdd o'r ysgol?

Nid oes angen i unrhyw blentyn sydd heb ddod i gysylltiad â'r dosbarth hunanynysu, a dylai gysylltu â'r ysgol ynghylch trefniadau ar gyfer addysgu. Os oedd eich plentyn yn absennol oherwydd salwch, ni ddylai fynychu'r ysgol nes ei fod wedi gwella'n llwyr.  

Pam nad oes rhaid i bob plentyn ynysu?

Mae gan yr ysgol amserlen wedi'i gwasgaru a gatiau mynedfa/allanfa gwahanol i sicrhau bod y plant mewn ‘swigod’. Bwriad y ‘swigod’ hyn yw cyfyngu ar y lledaeniad ymhlith disgyblion a staff os bydd achos positif o COVID-19.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, dim ond disgyblion a staff y dosbarth ‘swigen’ dan sylw sydd angen hunanynysu am 14 diwrnod. 

Nid yw'n angenrheidiol i unrhyw blentyn arall hunanynysu, aros i ffwrdd o'r ysgol neu gael ei brofi. Mae pob plentyn arall yn cael eu cynghori i fynychu'r ysgol fel arfer.

Yn achos phlant sy'n ynysu, a oes rhaid i frodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r aelwyd ynysu hefyd?

Nac oes, o reidrwydd, ond rhaid cadw pellter cymdeithasol yn y cartref. Rydym yn deall y gallai hyn fod yn anodd yn achos plant bach.

A fydd ysgolion sydd wedi cael eu heffeithio yn cael eu glanhau'n drylwyr?

Bydd pob ysgol yn parhau gyda'r gweithdrefnau glanhau ychwanegol sydd ar waith. Bydd yr ystafell ddosbarth dan sylw hefyd yn cael ei glanhau'n drylwyr ynghyd â'r holl fannau a rennir. 

A all fy mhlentyn fynd i'r ysgol os yw'n teimlo'n sâl neu os oes annwyd arno?

Ni ddylai unrhyw un sy'n sâl neu'n dangos symptomau COVID-19 fynychu'r ysgol.

A oes angen i'm plentyn wisgo masg?

Ni argymhellir bod plant oedran ysgol gynradd yn gwisgo gorchuddion wyneb. Argymhellir yn gryf bod disgyblion ysgolion uwchradd yn gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob cerbyd ac mewn mannau lle na ellir cadw pellter cymdeithasol.

Mae mesurau diogelwch llym o ran hylendid ar waith mewn ysgolion a byddant yn parhau i gael eu gweithredu.  

Os cafodd fy mhlentyn gyfarwyddyd i warchod ei hun yn flaenorol, a ddylwn i ei gadw adref o'r ysgol?

Na ddylech, nid yw'r trefniadau gwarchod yn cael eu hailgyflwyno ar hyn o bryd. Os bydd hyn yn newid a gofynnir i'ch plentyn warchod ei hun eto, byddwch yn cael llythyr.

Mwyaf poblogaidd
  • Coronafeirws - cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf
Share on Facebook
Share on Twitter
 
Post Feedback
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this page
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl