Gwasanaeth cynghori mewn ysgolion

Mae gan y Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion yng Nghaerffili dîm o unarddeg gwnselwyr sy'n cynnig gwasanaeth cwnsela i ddisgyblion ym mlynyddoedd pedwar, pump a chwech yn yr ysgol gynradd a phob ysgol uwchradd.

Gyda beth allwn ni helpu?

Mae cwnsela ar gyfer pawb sydd angen siarad â rhywun arall am sefyllfa nad ydynt yn hapus amdani. 

Mae llawer o resymau dros gael cwnsela fel:

  • Efallai eich bod yn teimlo yn drist neu yn gythryblus am rywbeth
  • Efallai eich bod yn teimlo fel bod pethau yn mynd yn faich arnoch
  • Efallai bod gennych feddyliau neu atgofion nas dymunir
  • Efallai bod angen gwneud penderfyniad anodd am rywbeth yn yr ysgol neu gartref arnoch
  • Efallai eich bod angen newid y ffordd yr ydych yn ymddwyn
  • Efallai bod gennych broblem â pherthynas - efallai rhieni, athro, ffrindiau, cariad neu sboner
  • Efallai eich bod yn cael trafferth cysgu neu ganolbwyntio ar eich gwaith

Sut i  gael mynediad at y gwasanaeth

Os ydych yn ddisgybl, rhiant, gofalydd neu weithiwr proffesiynol, gallwch wneud atgyfeiriad drwy e-bost , dros y ffôn neu drwy ddefnyddio ein ffurflenni atgyfeirio.

  • Galwch ni ar 01443 866623/ 01443 866624

  • E-bost schoolcounselling@caerphilly.gov.uk. Byddai’n ein helpu pe baech yn rhoi eich enw, ysgol, rhif ffôn a’ch rheswm dros gysylltu â ni yn yr e-bost.

  • lawrlwythwch ffurflen atgyfeirio isod a’i dychwelwch drwy e-bost neu bost at  Wasanaeth Cynghori mewn Ysgolion, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Unwaith i ni dderbyn yr atgyfeiriad, byddwn yn cysylltu â chi i’w drafod, ac yn rhoi brasamcaniad o bryd y bydd y cynghori yn cychwyn i chi.

Gewch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth plant a phobl ifanc a’u cwnsela isod:

Elsewhere on the web

Eye to Eye Wales | Kooth.com | Childline