Covid-19 Gwasanaeth dosbarthu prydau ysgol am ddim
Bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu dosbarthu yn yr wythnos yn cychwyn 22 Chwefror 2021. Bydd bocs prydau 10 diwrnod yn cael ei ddarparu i bob disgybl sydd wedi'i gofrestru i dderbyn dosbarthiad prydau ysgol am ddim. Mae'r manylion am gynnwys y bocsys hyn i'w gweld isod. Noder, ni fydd unrhyw ddosbarthiadau yn digwydd yn yr wythnos yn cychwyn 29 Chwefror 2021.
Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru eto mewn perthynas â'r wythnos yn cychwyn 8 Mawrth 2021.
Rydyn ni'n gallu darparu ar gyfer plant sydd ag alergeddau/anoddefiadau bwyd meddygol. Os oes gan eich plentyn cyflwr meddygol sy'n gorfodi deiet therapiwtig penodol sydd wedi'i gadarnhau gan feddyg neu ddeietegydd cofrestredig, cysylltwch â ni ar 01443 864055.
Os nad ydych chi wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth dosbarthu prydau ysgol am ddim ond hoffech chi eu derbyn, neu hoffech chi eu canslo, cysylltwch â ni ar arlwyo@caerffili.gov.uk neu 01443 864055. Os ydych chi'n dewis yr opsiwn e-bost, rhowch eich enw, cyfeiriad, enw eich plentyn, dyddiad geni eich plentyn ac enw ei ysgol i ni.
Dosbarthiadau prydau ysgol am ddim yn yr wythnos yn cychwyn 22/02/2021
Prif bryd o fwyd Cig
- Cawl tomato gyda thafell o fara
- Lasagne cig eidion gyda salad bach
- Nygets cyw iâr, sglodion ffwrn a phys
- Cyw iâr barbeciw gyda reis
- Brechdan caws a thomato gyda salad bach
- Brechdan caws ac winwns wedi'i thostio gyda ffyn ciwcymbr
- Pasta tomato a basil
- Korma cyw iâr, reis a phys
- Cacennau pysgod, taten bob a salad bach
- Cacennau pysgod, sglodion ffwrn a thalpiau tomato
- Eitemau ychwanegol sy'n cael eu cynnwys:
- Torth o fara, pecyn o gaws,
- 1 litr o laeth a phecyn salad sy'n cynnwys tatws pob, letys, berwr, tomatos, winwns a chiwcymbr.
- 5 iogwrt wedi'i rewi 5 Mouse mafo
Cynllunydd prydau 10-diwrnod B
- Pizza, ciwbiau o datws perlysiog sawrus a llysiau cymysg ffermdy
- Bysedd pysgod, ciwbiau o datws perlysiog sawrus a brocoli
- Cawl tomato a thafell o fara
- Pasta cyw iâr ac india-corn
- Caserol cig eidion, a llysiau
- Cig eidion rhost, pwdin Efrog, tatws rhost, llysiau a grefi
- Selsig, tatws stwnsh a llysiau
- Pizza caws a thomato
- Bysedd pysgod, tatws perlysiog sawrus a llysiau cymysg ffermdy
- Dogn o bysgod, sglodion a phys
- Eitemau ychwanegol sy'n cael eu cynnwys:
- Torth o fara
- 1 litr o laeth
- 5 twbaid o hufen iâ siocled
- 5 twbaid o hufen iâ mefus
Prif bryd o fwyd Cig
- Cawl tomato gyda thafell o fara
- Lasagne Llysiau a Salad Ochr
- Bysedd Llysiau, Sglodion Ffwrn a Pys
- Ratatouille Llysiau gyda Reis
- Brechdan caws a thomato gyda salad bach
- Brechdan caws ac winwns wedi'i thostio gyda ffyn ciwcymbr
- Pasta tomato a basil
- Tikka Masala Llysiau a Reis gyda phys
- Gril Veggie, Tatws Siaced a Salad Ochr
- Gril Veggie, Sglodion Ffwrn a Lletem Tomato
- Eitemau ychwanegol sy'n cael eu cynnwys:
- Torth o fara, pecyn o gaws,
- 1 litr o laeth a phecyn salad sy'n cynnwys tatws pob, letys, berwr, tomatos, winwns a chiwcymbr.
- 5 Iogwrt wedi'i Rewi & 5 Tiwb Hufen Iâ Fanila
Sut i wneud cais
Os yw'ch plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, gallwch chi wneud cais am gyflenwad wythnosol o brydau wedi'u rhewi i'ch drws. I wneud cais am y gwasanaeth hwn, llenwch y ffurflen gais isod.
Gwneud cais am gyflenwad o brydau ysgol am ddim
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch neu fewngofnodi i roi gwybod am broblem, gwneud cais, a thalu am wasanaethau. Os nad ydych chi am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder sbam/post sothach am e-bost actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu y byddwn ni'n eu hanfon atoch chi!
Mae prydau o fwyd yn cael eu dosbarthu bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau, ond gall newid. NI FYDDWN yn dosbarthu prydau o fwyd ar ddydd Llun na dydd Gwener.
Os nad yw'ch plentyn eisoes yn derbyn prydau ysgol am ddim a hoffech chi wneud cais, ewch i'r dudalen prydau ysgol am ddim am fanylion am sut i wneud cais. Os yw'n gymwys, bydd prydau o fwyd eich plentyn yn cael eu cynnwys yn y dosbarthiad yr wythnos wedyn.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ar 14 Hydref, y bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim yn cael ei hymestyn i gynnwys yr holl wyliau ysgol tan y Pasg 2021.
a salad bach