Myfyrwyr coleg (16 oed a throsodd)

I deithio am ddim i’r coleg ac oddi yno:

  • Rhaid i chi fyw yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gydag adran y dreth gyngor a’ch bod yn byw yn yr eiddo rydych yn gwneud cais am drafnidiaeth ar ei gyfer.
  • Mae’n rhaid i’r myfyriwr fod wedi’i gofrestru ar gwrs llawn amser.
  • Mae’n rhaid i’r myfyriwr fod yn 16, 17 neu 18 oed ar ddechrau ei gwrs.
  • Mae’n rhaid i’r myfyriwr fynychu sefydliad/coleg ei ddalgylch neu’r lle agosaf i’r cartref sy’n cynnig y cwrs neu gwrs cymharol debyg, bydd swyddogion yn penderfynu ar hyn.

Gwnewch gais ar-lein am drafnidiaeth coleg am ddim >

Please note, this form will not work from within Internet Explorer. Please use a more modern browser such as Edge, Chrome or Safari.

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym! 

Mae ffurflenni cais hefyd ar gael - cysylltwch â'r Uned Trafnidiaeth Integredig.

Rydyn ni'n parhau i dderbyn ceisiadau am gludiant i'r coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21 sy'n dechrau ym mis Medi 2020. Byddwch yn ymwybodol, o ganlyniad i'r pandemig COVID-19, a chyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu ar gapasiti sylweddol is, y bydd yn rhaid gwneud newidiadau helaeth i drefniadau trafnidiaeth coleg a'r ffordd y mae'n rhaid eu cyflawni.

Bydd yr Uned Drafnidiaeth Integredig yn gweithio'n agos gyda cholegau i bennu eu cynlluniau ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r coleg ym mis Medi a bydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth drafnidiaeth fwyaf priodol yn cael ei darparu yn unol â canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru.

Sut bydda i'n cael gwybod am ganlyniad fy nghais am gludiant i'r coleg?

Bydd eich cais am gludiant o'r cartref i'r coleg yn cael ei asesu yn unol â pholisi cludiant i'r coleg y Cyngor. Byddwn ni'n ysgrifennu at â chi gyda chanlyniad eich cais. Byddwn ni'n ymateb i geisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21 o fewn 28 diwrnod.

Pryd bydda i'n cael fy nhocyn bws?

Coleg y Cymoedd (Nantgarw)

Yr Uned Trafnidiaeth Integredig sy'n archebu'r tocynnau bws. Cânt eu hanfon i'r coleg o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais. Chaiff cludiant mo'i ddarparu yn ystod y cyfnod hwn. Dydy'r broses ddim yn cychwyn tan y diwrnod y daw'r ffurflen gais sydd wedi'i chwblhau'n gywir i law’r Uned Trafnidiaeth Integredig. Bydd raid ichi gasglu’r tocynnau bws unwaith i'r Gwasanaethau Myfyrwyr eu derbyn, a bydd raid ichi lofnodi i nodi’ch bod chi wedi’u derbyn.

Coleg Gwent

Bydd cadarnhad o'ch cymeradwyaeth yn cael ei e-bostio yn uniongyrchol at wasanaethau myfyrwyr yng Ngholeg Gwent cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn cais wedi'i gwblhau, a byddant yn rhoi eich tocyn bws i chi ar ddiwrnod cofrestru, neu'ch diwrnod cyntaf yn y coleg. Nid oes unrhyw ofyniad i gyflwyno llythyr hawl i'r coleg. Chaiff cludiant mo'i ddarparu yn ystod y cyfnod hwn. Dydy'r broses ddim yn cychwyn tan y diwrnod y daw'r ffurflen gais sydd wedi'i chwblhau'n gywir i law’r Uned Trafnidiaeth Integredig.

Sut rydw i'n cyrraedd y coleg?

Caiff cludiant ei ddarparu gan fws dan gontract, neu cewch chi docyn tymor i'w ddefnyddio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol. Y Cyngor sy'n penderfynu pa ddarpariaeth sydd fwyaf priodol i chi. Os oes gyda chi docyn mantais y bysiau (cerdyn teithio rhatach) eisoes, fyddwn ni ddim yn archebu tocyn tymor ichi – mae hawl gyda chi eisoes i deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Beth os caiff tocyn bws/trên fy mhlentyn ei golli neu ei ddifrodi?

Os bydd tocyn bws/trên yn cael ei golli neu ei ddwyn neu ei ddinistrio, dim ond ar ôl derbyn tâl bychan y bydd un arall yn cael ei roi.

  • £10.00 am newid tocyn trên a bws

I drefnu tocyn bws neu docyn trên arall dylech gysylltu â’r llinell dalu ar 01443 866570.

Gwneud cwyn neu roi gwybod am broblem

Os hoffech roi gwybod am broblem neu gyflwyno cwyn cysylltwch â ni. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch y gŵyn neu’r ymholiad.

Diogelu data

Mae dyletswydd ar y cyngor i ddiogelu arian y mae’n ei weinyddu a byddech yn gweithredu’n dwyllodrus pe baech yn rhoi cyfeiriad anghywir er mwyn cael gwasanaeth nad oes hawl gennych i’w gael. Er mwyn delio â’ch cais, efallai y byddwn yn cysylltu ag adrannau eraill yn y cyngor fel rhan o’n proses ddilysu. Os na fyddwn yn gallu dilysu bod y cyfeiriad a roddir yn gywir, caiff y ffurflen gais ei dychwelyd i’r ymgeisydd.

Cysylltwch â ni