Polisi Cartref ir Ysgol

Mae Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (y Cyngor) sicrhau bod gwybodaeth ar gael am ei bolisïau a'r trefniadau a roddir ar waith ar gyfer cludo dysgwyr.

Wrth wneud hynny, mae Polisi, Gwybodaeth a Threfniadau Teithio Dysgwyr y Cyngor yn cynnwys canllawiau sydd wedi'u cynllunio i hysbysu rhieni, gofalwyr a dysgwyr ar sut mae'r polisi'n cael ei weithredu'n ymarferol a sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso'n gyson ac yn deg ledled y Fwrdeistref Sirol.

Bydd unrhyw benderfyniadau a wneir gan Swyddogion y Cyngor ynghylch hawl yn seiliedig ar y ddogfen hon ac, yn amodol ar gydymffurfio â'r wybodaeth a gynhwysir ynddo, yn cael eu hystyried yn derfynol.

 

Cysylltwch â ni