Grwpiau cefnogi gofalyddion

Dyma'ch cyfle chi i siarad â ni ac eraill sydd â phrofiad o ofalu. Er bod pob grŵp yn cyfarfod am awr a hanner, mae croeso i chi alw heibio am gyhyd ag y dymunwch chi, ac aros ymlaen am gyhyd ag y dymunwch chi wedyn! Mae rhagor o fanylion ar ein grŵp Facebook ni, neu cysylltwch â ni.

Dyddiadau yn y dyfodol

NEWYDD! Grŵp Bargod, Murray’s (Y Stryd Fawr Uchaf, Bargod) ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 11am a 12.30pm

Grŵp Coed Duon, Caffi McKenzie ar ddydd Mawrth olaf y mis rhwng 10.30am a 12 canol dydd

Grŵp Caerffili, Yr Hen Lyfrgell, Caerffili, ar drydydd dydd Gwener y mis o 2pm tan 3.30pm

Grŵp Rhisga, The Coffee Mill, Rhisga, ar ail ddydd Iau y mis o 12 canol, dydd tan 1.30pm

Os bydd unrhyw un o’r dyddiadau hyn ar ŵyl banc, fel arfer, byddwn ni’n symud i’r wythnos ganlynol ar yr un diwrnod, ond os ydych chi'n ansicr, gallwch chi gwirio ar Facebook neu cysylltu â’r tîm.

Adnoddau

Cynllun Grantiau Bach

Ar hyn o bryd mae gennym swm bach o arian ar gael i gynorthwyo gofalyddion yn eu rôl gofalu. Gall gofalyddion wneud cais am arian ar gyfer gwahanol bethau, megis offer cartrefi, gwersi gyrru, seibiannau byr a chymorth gyda sgiliau newydd. Cysylltwch â ni am ffurflen gais.

Trefnu digwyddiad?

Os yw eich sefydliad neu grŵp yn cynnal digwyddiad a’ch bod chi eisiau i ni fod yn ymwybodol ohono, cysylltwch â’r Gweithiwr Cynnal Gofalwyr i’n hysbysu ac os yw’n addas, byddwn yn ychwanegu’r manylion i’r dudalen hon.

Cysylltwch â ni