Cael seibiant o’r gofalu

Mae pawb angen newid a seibiant bach o bryd i’w gilydd, boed hynny am awr, diwrnod neu wythnos gyfan. Gall hyn fod yn arbennig o wir i ofalyddion – mae gofalu yn gallu bod yn flinderus.

Mae cael seibiant yn fwy tebygol o’ch helpu i ymdopi â gofalu a bydd yn rhoi’r amser sydd ei angen arnoch i gael eich cefn atoch. Efallai y byddwch am gael seibiant er mwyn dilyn eich diddordebau a chyfarfod â theulu a ffrindiau. Efallai y byddwch am gynllunio seibiant hirach i’ch galluogi i fynd ar wyliau.

Mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael i’ch helpu i gael seibiant. Bydd rhaid i chi feddwl am beth sydd orau i chi a'r person yr ydych yn gofalu amdano. Mae’n bwysig bod y ddau ohonoch yn ymddiried yn y person a fydd yn rhoi’r gofal tra byddwch chi i ffwrdd.

Efallai y bydd gofyn i chi ystyried costau’r gwasanaeth gan fod costau’n gysylltiedig â rhai gwasanaethau.

Gwasanaeth eistedd â phobl

Caiff gwasanaethau eistedd â phobl eu darparu yng nghartref y person sy’n derbyn gofal. Cânt eu rhedeg gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol, awdurdodau iechyd neu gyfuniad o’r rhain.

Gofal preswyl

Gall cartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio gynnig gofal tymor byr i’r person yr ydych chi’n gofalu amdano er mwyn i chi gael seibiant. Os gallwch, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ymweld â’r cartref o flaen llaw i sicrhau y gall ddiwallu anghenion y person yr ydych yn gofalu amdano.

Mae rhagor o wybodaeth am ddarparwyr gofal cofrestredig i’w gael ar y dudalen gwe Darparwyr gofal cofrestredig.

Gwasanaethau dydd

Mae llawer o wasanaethau cymdeithasol, Awdurdodau iechyd a sefydliadau gwirfoddol yn rhedeg canolfannau dydd i ofalu am oedolion ag anableddau. Gallai’r rhain fod ar ffurf clybiau cinio, canolfannau cymdeithasol neu ysbytai dydd, yn dibynnu ar eich anghenion chi fel gofalyddion, a'r person yr ydych yn gofalu amdano. Mae llawer o ganolfannau yn trefnu gweithgareddau gofal, clybiau ac ymweliadau.

 

Ewch i’r dudalen gwe ar wasanaethau a chyfleoedd yn ystod y dydd i gael rhagor o wybodaeth.

Lleoliadau hirdymor, tymor byr a llety yn ystod y dydd i Oedolion

Mae Cynllun Lleoliadau Oedolion / Rhannu Bywydau De-ddwyrain Cymru yn cynnig llety a chymorth i bobl ag anableddau dysgu, pobl ag anghenion iechyd meddwl, pobl ag anableddau corfforol, pobl hŷn a phobl â nam ar y synhwyrau yng nghartrefi pobl yn y gymuned sydd wedi’u recriwtio yn arbennig.

Nod y cynllun yn darparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar anghenion o fewn amgylchedd teuluol i alluogi unigolion i fabwysiadau rolau cymdeithasol gwerthfawr mewn teuluoedd a chymunedau.

Seibiannau byr a gwyliau

Isod mae rhestr o sefydliadau sy’n cynnig gwyliau a seibiannau byr i blant a theuluoedd ag anabledd neu salwch, eu gofalyddion a'u teuluoedd.

Dilynwch y ddolen i lawrlwytho rhestr o’r sefydliadau hyn

Seibiannau byr i rieni a gofalyddion plant ag anableddau

Mae seibiannu byr yn galluogi rhieni a gofalyddion plant i dreulio amser ar eu pen eu hunain am ychydig oriau yn ystod y dydd, gyda'r nos neu dros nos, os oes gan y plentyn anableddau cymhleth, tra bod yn plentyn yn cael amser difyr, llawn ysgogiad yn cymysgu gyda'i gyfoedion a gwneud ffrindiau newydd. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun seibiannu byr, ewch i’r dudalen gwe Plant ag anableddau.

Gofyn i ni am help

I drefnu gofal neu i siarad am rai o’r opsiynau sydd ar gael i chi, cysylltwch â’n Gweithiwr Cymorth Gofalyddion.

Gwyliwch ein fideo ar blant ag anableddau.

Cysylltwch â ni