Cymorth ar gyfer anawsterau gyda'r golwg

Anhawster gyda'r golwg yw pan fyddwch wedi colli eich golwg yn rhannol neu'n gyfan gwbl ac nad oes modd cywiro hynny drwy wisgo sbectol.

Bydd y gwasanaeth a gewch yn cael ei ddarparu gan Swyddogion Adsefydlu ar gyfer Nam ar y Golwg.

Mae'r swyddogion hyn yn arbenigwyr ar anawsterau gyda'r golwg. Byddan nhw'n trafod eich golwg gyda chi ac unrhyw broblemau sydd gennych ac yn gwneud asesiad arbennig ohonoch.

Nod y gwasanaeth yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau cywir ichi er mwyn ichi fod yn fwy annibynnol yn eich cartref a'ch cymuned.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • cofrestru ar gyfer dallineb / nam ar y golwg
  • ystyried cyflwr llygaid person a sut mae'n effeithio ar fywyd bob dydd
  • ailddysgu sgiliau bywyd bob dydd fel paratoi prydau
  • hyfforddiant ar symud y tu mewn a'r tu allan
  • hyfforddiant ar sgiliau cyfathrebu
  • cyngor am wasanaethau sydd ar gael gan yr adrannau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill
  • cyngor ar gymhorthion ar gyfer golwg gwan, goleuo a chyferbyniad o liwiau
  • cyngor ar gyfarpar arbennig a mynediad i wasanaethau eraill fel cŵn tywys a llyfrau llafar
  • atgyfeirio at y gwasanaeth Cefnogi Pobl a gwasanaethu cymorth sy'n ymwneud â thai 

Sut mae cofrestru?

Os ydych wedi colli eich golwg yn barhaol neu'n rhannol, cysylltwch â'ch optegydd lleol a gofynnwch am gael eich atgyfeirio i'r clinig llygaid yn eich ysbyty lleol. Bydd yn dweud wrthych os gallwch gael eich cofrestru'n ddall neu'n rhannol ddall.

Yna cewch eich atgyfeirio at Dîm Synhwyrau y cyngor a fydd yn dweud wrthych am y broses gofrestru a manteision cofrestru.

Ydych chi'n colli eich golwg a'ch clyw?

Ewch i'n tudalen ar Anawsterau gyda'r Clyw a'r Golwg.

I gael rhagor o wybodaeth neu i atgyfeirio rhywun, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.

Efallai y bydd y gwasanaethau canlynol yn ddefnyddiol ichi hefyd:

Cynllun Golwg Gwan Cymru

Ydy eich golwg wedi dechrau gwaethygu? Ydych chi'n gweld nad yw eich sbectol yn helpu cymaint ag yr oeddent?

Efallai y bydd Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru, a ariennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o gymorth ichi.

Bydd optometryddion achrededig ledled Cymru yn cynnal asesiad i benderfynu a oes unrhyw gymhorthion golwg gwan ar gael i helpu rhywun gyda golwg gwan i wneud y pethau y mae'n dymuno eu gwneud. Mae'r apwyntiad gyda'r ymarferydd golwg gwan ar gael am ddim gan y GIG ac mae'r holl gymhorthion golwg gwan ar gael i'w benthyca, yn rhad ac am ddim. Bydd yr ymarferydd hefyd yn defnyddio ei wybodaeth arbenigol i'ch atgyfeirio at wasanaethau eraill yn eich ardal. Mae gwasanaethau nam ar y golwg yng Nghyngor. Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth hwn.

I ddarganfod gyda phwy y dylech gysylltu, chwiliwch am y gwasanaethau golwg gwan yn eich ardal chi.

Bydd yr optegydd a fydd yn eich asesu yn gallu eich atgyfeirio at yr offthalmolegydd ymgynghorol yn y clinig llygaid yn eich ysbyty lleol, os bydd angen.

Cysylltwch â ni