Meini prawf cymhwyster i gael cymorth gan wasanaethau cymdeithasol oedolion

Mae’r meini prawf cymhwyster cenedlaethol yn ein helpu ni i benderfynu a oes angen i ni baratoi cynllun gofal i chi, neu a yw hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud drosoch eich hun.

Fel y gallwn ddefnyddio’r meini prawf hyn, mae angen i ni wybod beth yr hoffech ei gyflawni o’ch cyswllt gyda ni. Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi megis “beth sy’n bwysig i chi?” “Beth sy’n bwysig ar hyn o bryd?” a “beth hoffech chi ei gyflawni?”

Unwaith y byddwn yn gwybod mwy am eich amgylchiadau, byddwn yn dechrau gweithio ar ba gamau sydd angen eu cymryd a phwy yw’r person gorau i’w gwneud nhw. Rydym yn gwneud hyn gyda’ch help chi i wneud yn siŵr eich bod yn teimlo bod eich llais yn cael ei glywed.

Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi megis:

  • A ydych chi’n gallu cyflawni eich deilliannau eich hunain? A allwn ni gynnig ychydig o wybodaeth a chyngor i chi a fyddai’n eich helpu i wneud hyn?
  • A oes gennych unrhyw deulu neu ffrindiau a allai eich helpu chi?
  • A oes rhywbeth yn eich ardal leol a fyddai’n helpu?
  • A oes gennych y modd i allu prynu’r gefnogaeth y teimlwch eich bod ei hangen yn breifat?

Os allwch ateb ydw/oes i’r cwestiynau hyn, yna mae’n debygol na fyddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyster ac na fyddwch angen asesiad pellach gennym ni.

Wedi darllen y meini prawf uchod, os ydych yn meddwl eich bod yn bodloni ein meini prawf cymhwyster ar gyfer gofal a chefnogaeth, cysylltwch â ni a byddwn yn trafod gyda chi beth sydd angen digwydd nesaf.

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer ein gwasanaethau, byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi o hyd, gan eich cyfeirio at ffynonellau eraill o help i drefnu eich gofal eich hun.

Os ydych chi’n meddwl y gall Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion helpu i’ch cefnogi chi, aelod o’r teulu neu ffrind, cofiwch gysylltu â ni. Gallwch ffonio’n rhad ac am ddim ar 0808 100 2500.

Os oes gennych bryderon dybryd am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall yna mae’n bosib na fydd y meini prawf cymhwyster yn berthnasol. 

Yr asesiad

Byddwn yn trafod gyda chi pa ddeilliannau yr hoffech eu cyflawni, eich anghenion gofal a chefnogaeth, sut y gellir bodloni’r rhain ac a ydych yn gymwys am help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Asesiad yw’r enw am y drafodaeth hon.

Fel rhan o’r broses hon, fel isafswm, rhoddir gwybodaeth i chi a chewch eich cyfeirio at gefnogaeth a gwasanaethau eraill. Fodd bynnag, os ydym yn cytuno eich bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster, byddwn yn eich helpu i fodloni eich anghenion gofal a chefnogaeth a gweithio gyda chi i feddwl am ba gefnogaeth yr ydych ei hangen a sut y cyflawnir hyn orau.

Should you need ongoing support, it is likely that arrangements for your care will be written into a care and support plan. This is called a care and treatment plan in mental health.

Pe byddech angen cefnogaeth barhaus, mae’n debygol y bydd trefniadau am eich gofal yn cael eu cynnwys mewn cynllun gofal a chefnogaeth. Gelwir hwn yn gynllun gofal a thriniaeth mewn iechyd meddwl.

Yn syml iawn, dogfen yw’r cynllun gofal a chefnogaeth i’ch helpu chi i wybod beth mae pawb yn ei wneud, a phryd maen nhw’n ei wneud ac fe roddir copi i chi.

Byddwn yn monitro ac yn adolygu eich cynllun gofal a chefnogaeth i wneud yn siŵr bod y gefnogaeth yr ydych yn ei derbyn yn iawn i chi.

Os byddwn yn darparu gwasanaethau gofal a chefnogaeth i chi, byddwn yn gofyn i chi wneud financial contribution towards the cost of your services. Bydd staff yn ymgymryd ag asesiad ariannol i bennu faint allwch chi fforddio’i dalu.

Cysylltwch â ni