Beth yw camdriniaeth?

Mae gan bawb yr hawl i eraill barchu eu hurddas dynol ac i fyw eu bywydau heb gamdriniaeth ac esgeulustod. 

Byddai amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, pan fydd angen gwneud hynny, yn gallu sicrhau gwell ansawdd bywyd i lawer o bobl. Gall rhai oedolion fod yn arbennig o agored i gael eu cam-drin ac mae’n bosibl bod eu hawliau dynol yn cael eu diystyru’n rheolaidd.

Mae Awdurdodau Lleol, yr heddlu, y bwrdd iechyd, rheoleiddwyr a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cydweithio ac wedi ymrwymo i sicrhau y caiff oedolion agored i niwed eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Byddant yn gweithredu ar unwaith lle bo’n angenrheidiol, i gadw oedolion agored i niwed yn ddiogel rhag niwed. 

Pwy all fod yn oedolyn agored i niwed?

Y diffiniad o oedolyn agored i niwed yw:

"Person 18 oed neu hŷn a all fod ag angen gwasanaethau gofal cymunedol oherwydd anabledd meddyliol neu anabledd arall, oedran neu salwch, ac sydd, neu a all fod, yn methu â gofalu amdano ei hun, neu’n methu â’i amddiffyn ei hun rhag niwed sylweddol neu gam-fanteisio difrifol.”

Gall oedolion agored i niwed gynnwys pobl ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, pobl hŷn a phobl anabl, yn enwedig pan fydd eu sefyllfa’n fwy cymhleth oherwydd ffactorau ychwanegol fel eiddilwch corfforol, salwch cronig, nam ar y synhwyrau, ymddygiad heriol, diffyg galluedd meddwl, problemau cymdeithasol ac emosiynol, tlodi, digartrefedd neu gamddefnyddio sylweddau.

Beth yw ‘camdriniaeth’?

Camdriniaeth yw pan fydd rhywun yn eich trin yn wael trwy ddweud neu wneud pethau sy’n eich brifo, eich ypsetio, codi ofn arnoch neu’n achosi gwir niwed corfforol i chi. Gall camdriniaeth gynnwys triniaeth sy’n anwybyddu eich hawliau dynol a sifil, sy’n achosi gwir ddioddefaint meddyliol neu gorfforol ac sy’n gallu effeithio’n sylweddol ar ansawdd eich bywyd. 

Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le – mewn cartref preswyl neu nyrsio, ysbyty, yn y gweithle, cartref unigolyn, mewn canolfan ddydd neu sefydliad addysgol, mewn tai â chymorth neu ar y stryd. 

Mae mathau o gamdriniaeth yn cynnwys:

Camdriniaeth gorfforol fel taro, gwthio, pinsio, ysgwyd, defnyddio gormod o feddyginiaeth neu rwystro rhywun rhag cymryd ei feddyginiaeth.

Camdriniaeth rywiol fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol nas dymunir, cyffwrdd yn amhriodol, trais, ymosod rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad ydych wedi cydsynio iddynt, neu y rhoddwyd pwysau arnoch i gydsynio iddynt.

Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol fel cael rhywun yn eich bygylu, eich bygwth, eich cam-drin neu’ch bychanu ar lafar, eich beio, eich rheoli neu’n aflonyddu arnoch, yn eich anwybyddu’n bwrpasol neu’n eich ynysu o ffrindiau, teulu, gwasanaethau neu gymorth. 

Camdriniaeth ariannol fel twyll neu gam-fanteisio, dwyn neu gadw eich arian oddi wrthych neu ei wario’n amhriodol, rhoi pwysau arnoch i newid eich ewyllys neu gamddefnyddio’ch eiddo, etifeddiaeth, meddiannau neu fudd-daliadau.

Esgeulustod fel anwybyddu’ch anghenion o ran gofal meddygol neu gorfforol, eich rhwystro rhag defnyddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, peidio â gofalu amdanoch yn iawn, peidio â rhoi bwyd digonol i chi, neu eich rhoi mewn perygl. 

Gall unrhyw un o’r mathau hyn o gamdriniaeth fod yn fwriadol neu’n ganlyniad i anwybodaeth, neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Weithiau caiff pobl eu cam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Pwy all fod yn achosi’r gamdriniaeth?

Gall y person sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth fod yn rhywun rydych yn ei adnabod a gallai fod yn un o’r canlynol:

  • Gofalwr sy’n cael ei dalu neu’n wirfoddolwr.
  • Gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol neu weithiwr arall.
  • Ffrind neu gymydog.
  • Preswylydd neu ddefnyddiwr gwasanaeth arall.
  • Perthynas – gall gofalu am oedolyn agored i niwed fod yn anodd. Weithiau gall gofalwyr deimlo dan straen ac wedi’u hynysu.
  • Rhywun sy’n cam-fanteisio ar bobl agored i niwed yn fwriadol.
  • Unrhyw un arall a all ddod i gysylltiad â’r person dan sylw. 
Cysylltwch â ni

Elsewhere on the web

Action on Elder Abuse Cymru