Gwirfoddoli a chyfeillio

Mae’r Gwasanaeth Gwirfoddoli’n cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i fanteisio ar gyfleusterau hamdden a chyfeillio yn y gymuned.

Rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i gysylltu gwirfoddolwyr ag oedolion sy’n agored i niwed sydd â diddordebau, hobïau a gwerthoedd tebyg iddyn nhw.

Beth yw gwaith y gwirfoddolwyr?

Yn dibynnu ar faint o amser y mae modd iddyn nhw ei roi, bydd gwirfoddolwyr yn mynd gyda’r unigolyn i fanteisio ar gyfleusterau yn y gymuned leol fel sinema, siopa, cwrdd am ddiod a sgwrs neu gyfleusterau hamdden ac ati.

Bydd gweithgareddau’n amrywio yn dibynnu ar allu’r unigolyn a’r gwirfoddolwr. I’r rhai llai abl, gallai gynnwys treulio amser â’r unigolyn yn y cartref neu ffonio am sgwrs, neu wirfoddoli gyda gwasanaeth dydd neu leoliad preswyl. Gallai fod yn gwneud hobi y mae’r ddau ohonoch yn ei hoffi, gyda chi’n rhannu’ch sgiliau â grŵp o bobl.

“Rwy’n gwneud cymaint gyda fy ngwirfoddolwr, rydyn ni’n mynd i fowlio, i’r sinema ac yn mynd i fwytai. Mae hi’n ffrind da iawn ac rwy mor ffodus i’w chael hi’n wirfoddolwr i mi.”

“Dwi’n byw mewn cartref preswyl ac yn edrych ymlaen i ymweliadau fy ngwirfoddolwr. Pan fydda i wedi cael llond bol ar bethau dwi’n edrych ymlaen yn arw iddo ddod ataf a gwneud i mi wenu. Mae’n garedig iawn ac yn dda iawn i mi.”

“Ers i mi gwrdd â H ry’n ni wedi mynd ar gwrs cyfrifiaduron gyda’n gilydd ac mae hi’n gallu fy e-bostio nawr, felly mae’n dda ei gweld hi’n gwenu ac mae hi’n fwy hyderus o lawer. Rwy’n bles iawn fy mod wedi gallu ei helpu.”

Pwy all wirfoddoli?

Gall unrhyw un dros 18 oed a all roi amser, yn y byrdymor neu dros yr hirdymor, wirfoddoli. Nid oes angen i chi feddu ar brofiad blaenorol, ond mae angen cynnal gwiriadau i sicrhau eich bod yn addas.

Gall gwirfoddolwyr fod wedi ymddeol, yn fyfyrwyr, wedi’u cyflogi, yn ddi-waith neu’n ystyried newid gyrfa – neu fod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl.

Cofiwch, ni ddylai gwirfoddoli effeithio ar eich budd-daliadau diweithdra, os ydych yn eu hawlio. Ond efallai y byddai’n syniad cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gael cyngor.

“Rwy’n astudio i fod yn nyrs, ac wedi gwirfoddoli ers 2 flynedd. Rwy’n cwrdd â dwy fenyw bob wythnos bron, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at dreulio amser gyda’n gilydd. Mae’n ffordd wych o wirfoddoli am nad ydw i’n teimlo fy mod i’n gweithio, ond yn hytrach yn treulio amser â dwy fenyw sydd bellach yn ffrindiau i mi.”

“Penderfynais wirfoddoli pan oedd fy mywyd i’n mynd o chwith. Mae wedi rhoi egni newydd i mi, a dwi’n cael boddhad mawr o allu helpu eraill. Dwi’n rhannol anabl fy hun, a thrwy wirfoddoli sylweddolais fod gen i rywbeth i’w gynnig. Mae wedi newid fy mywyd er gwell.”

Pa gymorth a hyfforddiant sy’n cael eu cynnig?

Byddwn yn cysylltu â chi’n rheolaidd, ac yn rhoi cymorth ac arweiniad i chi. Gall gwirfoddolwyr hefyd ddilyn hyfforddiant yn barhaus. Mae’r hyfforddiant am ddim ac mae’n cwmpasu ystod eang o bynciau cyffredinol a phenodol fel:

  • Ymwybyddiaeth o Epilepsi ac Awtistiaeth
  • Demensia
  • Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed
  • Ymwybyddiaeth Nam ar y Golwg
  • Hanfodion Gofal
  • Cymorth Cyntaf Sylfaenol
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwla llawer mwy... 

Beth am gostau?

Bydd y person sy’n gwmni i’r gwirfoddolwr yn talu ei holl gostau ei hun. Gall gwirfoddolwyr hawlio’n ôl am dreuliau fel talu am docynnau bws a thrên, milltiroedd gyrru, ffioedd mynediad a lluniaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y tîm yn y Gwasanaeth Gwirfoddoli.

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Gofalu am Gaerffili neu gwblhau ein ffurflen mynegi diddordeb a bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Mynegwch eich diddordeb
 
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Cysylltwch â ni