Darparwyr gwasanaeth gofal seibiant 

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw'r rheoleiddwyr ar gyfer gofal cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n anelu at ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd ac argaeledd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfeirlyfr o wasanaethau gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda AGC ar gael ar wefan AGC.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio gyda'r sefydliadau isod er mwyn darparu, gwasanaeth seibiant yn y cartref o safon uchel, sy'n anelu at gwrdd ag anghenion unigol gofalwyr y mae eu hansawdd bywyd yn cael ei effeithio wrth gyflawni'r rôl hon. Bwriad y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth seibiant arbenigol ar gyfer gofalwyr, i'w galluogi i gael amser iddynt eu hunain a helpu i leddfu’r straen a brofir yn aml drwy ddarparu cymorth ymarferol. Bydd hyn yn cael ei gyflawni wrth i'r sefydliadau gymryd drosodd rôl y gofalwr am gyfnod o amser, gan alluogi'r gofalwr i gymryd peth amser i’w hunain.

Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cael eu darparu lle maent ar gael.

Gellir gweld adroddiadau drwy ddilyn y dolenni o dan fanylion y darparwr.

  • Mae Adroddiadau Monitro yn ymwneud ag ymweliadau rheolaidd a gynhaliwyd gan yr Is-adran Monitro Contractau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Mae rhestr termau ar gael er gwybodaeth i chi.
  • Mae ymweliadau Perfformiad Darparwyr yn cael eu cynnal lle mae pryderon cynyddol am ddarparwr ac felly mae angen mwy o fonitro rheolaidd.

Rhestr A-Z o ddarparwyr gwasanaeth gofal seibiant 

Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, Ysbyty'r Sir, Griffithstown, Pont-y-pŵl. NP4 5YA
Ffôn: 01495 769996
Facs: 01495 213949
E-bost: careteam@crossroads-se-wales.org.uk

Cysylltwch â ni